Cynllwyn i fomio Maes Awyr Rhyngwladol JFK (2007)

Oddi ar Wicipedia
Cynllwyn i fomio Maes Awyr Rhyngwladol JFK
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad Edit this on Wikidata
LleoliadDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
 Rhybudd! Mae safon iaith a mynegiant yr erthygl hon yn annerbyniol ac mae angen ei gwella.
Gallai rhannau o'r erthygl, neu'r erthygl gyfan, fod yn anodd i'w deall oherwydd camgymeriadau gramadegol, camsillafu, termau anghywir neu wallau ieithyddol eraill. Mae croeso i chi fynd ati i gywiro'r gwallau hyn.
Mae'r nodyn yma yn rhoi'r erthygl yn y categori Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Cynllwyn Islamiaeth derfysgol honedig i chwythu lan system o danciau cyflenwi tanwydd awyren a llinellau pibellau sy'n darparu tanwydd ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy (JFK) yn Queens, Efrog Newydd oedd cynllwyn ymosodiad ar Faes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy yn 2007. Mae'r pibellau hyn yn teithio trwodd dan ddaear Dinas Efrog Newydd yn ardaloedd gyda dwysedd poblogaeth uchel. Datgelwyd y cynllwyn honedig pan recriwtiwyd swyddog-heddlu cudd i'r gell derfysgol frodorol. Y rhai a ddrwgdybir yw Russell Defreitas, dinesydd Americanaidd a brodor o Gaiana oedd yn yr arweinydd honedig ac yn gweithio yn y maes awyr am gyfnod; Abdul Kadir, dinesydd Gaianaidd a chyn-aelod o Gynulliad Cenedlaethol Guyana; Kareem Ibrahim, dinesydd Trinitobagaidd; ac Abdel Nur, dinesydd Gaianaidd ac ewythr y cyn-bencampwr paffio welterweight y byd Andrew "Six Heads" Lewis.[1] Arestiwyd Defreitas yn Brooklyn, Efrog Newydd. Arestiwyd Kadir ac Ibrahim yn Nhrinidad ar 3 Mehefin, 2007. Ildiodd Nur i heddlu ddau ddiwrnod wedyn yn Nhrinidad.[2] Ar 29 Mehefin ditiwyd y pedwar dyn ar gyhuddiadau o gynllwynio i "achosi marwolaeth, anaf corfforol difrifol a dinistr eang" yn y maes awyr.[3] Ar 6 Awst gorchmynodd farnwr i dri o'r cynllwynwyr honedig cael eu hestraddodi i'r Unol Daleithiau.[4]

Mewn sgwrs gofnodedig, honnir i Russell Defreitas dweud i hysbysydd "Unrhyw amser 'dach chi'n taro Kennedy, yw'r peth mwyaf niwediol gallech chi wneud i'r Unol Daleithiau. I daro John F. Kennedy, wow . . . Maen nhw'n caru JFK – mae'n like the man. Os 'dach chi'n taro hwnna, bydd yr holl wlad yn galaru. Mae'n fel gallech chi lladd y dyn dwywaith." [5] Honnir i Defreitas weld arfau a thaflegrau cael eu cludo i Israel ac roedd yn teimlo bydd rhain yn cael eu defnyddio i niweidio Mwslimiaid.

Gwanaethpwyd wyliadwriaeth ymestynnol o'r targedau, yn cynnwys defnydd ffotograffiau lloerenni, ac ymdrechion i gysylltu â grŵp Islamiaeth derfysgol arall. Ni chafodd unrhyw ffrwydron eu prynu.

Dywedodd ffynhonnell o heddlu Dinas Efrog Newydd i Newsday bod ymchwilwyr yn archwilio i gysylltiad posib rhwng y cynllwyn ac Iran, oherwydd roedd Abdul Kadir yn bwriadu ymweld â'r wlad honno. Yn ôl adroddiadau, mae heddlu yn Nhrinidad yn ymchwilio i os oedd gan Kareem Ibrahim cysylltiadau ag Irac ac Iran.[6] Ar 6 Awst ymddangosodd bydd awdurdodau Americanaidd yn honni roedd y cynllwynwyr yn bwriadu ceisio cymorth gan Iran.[4]

Roedd gan y rhai a ddrwgdybir yn y cynllwyn proffil gwahanol i gymharu â'r terfysgwyr honedig mewn cynllwynion Islamiaeth derfysgol cynt.[angen ffynhonnell] Mae oedrannau'r rhai a ddrwgdybir yn amrywio o 51 i 63 ac roeddent o'r ardal Garibïaidd.

Mae'r hysbysydd yn yr achos yn ddeliwr cocên a wnaeth cydweithio gydag ymchwilwyr ar ôl cael ei euogfarnu o gael werth tua $2 miliwn o gocên yn ei eiddo yn 2003, yn ôl dogfennau llys a bostiwyd ar thesmokinggun.com. Disgrifir y dyn oed 36 yn y dogfennau fel cyn-aelod o gang cyffuriau treisgar a euogfarnwyd yn 1996 o werthu cocên a chrac a bod yn rhan o gynllwyn i lofruddio "barwn cyffuriau" gwrthwynebol. Goroesodd y gwrthwynebydd yr ymgais i'w ladd, yn ôl yr achwyn ffederal yn yr achos masnachu a racetirio cyffuriau. Ar ôl y postiad ar y we dywedodd James Margolin, llefarydd dros yr FBI: "Rydym yn pryderu am ddiogelwch y ffynhonnell ac yn cymryd mesurau i warchod fo."[7]

Dadl dros ddifrifoldeb y cynllwyn[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd ddadl yn sgil y cynllwyn dros ddifrifoldeb y bygythiad a gwir peryg y cynllwyn hwn a sut dylid ymateb i gynllwynion a ddatgelir yn gyffredinol. Gwelwyd feirniadaeth i ddatganiad gan Twrnai yr Unol Daleithiau Roslynn Mauskopf roedd yn "un o'r cynllwynion mwyaf iasoer ddychmygol", gall wedi achosi difrod "anfeddyliadwy".[8] Yn ôl beirniaid megis Bruce Schneier[9] roedd y cynllwyn byth yn weithredol, roedd y cyhoedd byth mewn peryg ac roedd y syniad o chwythu lan y maes awyr, heb sôn am fwrdeistref Queens, trwy ffrwydro tanc tanwydd ymhob tebygoliaeth yn amhosibilrwydd technegol.[10] Hefyd ceir portreadau o'r prif derfysgwr honedig Russell Defreitas fel dyn anlwcus a digartref, ac o gyd-gynllwyniwr Abdel Nur fel adict cyffuriau. Rhoddodd The New York Times stori'r cynllwyn ar dudalen 37 y diwrnod ar ôl iddo gael ei ddatgan. Beirniadwyd penderfyniad y Times yn The New York Post gan Rich Lowry, golygydd National Review, gan ddweud "bydd cynllwynion terfysgol a ddatgelir yn aml yn ymddangos yn chwerthinllyd ac annhebygol" ond dylent cael eu hystyried yn ddifrifol.[11] Disgrifiodd y Gweriniaethwr Peter King, cyn-gadeirydd ac aelod Pwyllgor Tŷ'r Unol Daleithiau ar Ddiogelwch Mewnwladol, beirniadaeth o'r heddlu fel "pris llwyddiant pan nad ydych wedi cael eich ymosod arno mewn chwe mlynedd. Rydym wedyn mynd o feirniadu nhw am beidio gwneud digon yn syth ar ôl 9/11 i nawr feirniadu nhw gormod."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) JFK terror plot suspect's alleged role draws disbelief. Newsday (5 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  2. (Saesneg) JFK Terror Plot Suspect Surrenders in Trinidad. FOXNews.com (6 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  3. (Saesneg) 4 indicted in terror plot to blow up JFK airport. Newsday (29 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Suspects in airport plot face extradition to U.S.. Newsday (7 Awst, 2007). Adalwyd ar 18 Awst, 2007.[dolen marw]
  5. (Saesneg) N.Y. Airport Target of Plot, Officials Say. The Washington Post (3 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  6. (Saesneg) Iran link in JFK plot?. Newsday (7 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  7. (Saesneg) JFK informant’s $2M cocaine arrest. Newsday (15 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  8. (Saesneg) The JFK Plot: Overstating the Case?. TIME (4 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.
  9. (Saesneg) Portrait of the Modern Terrorist as an Idiot. Wired News (14 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  10. (Saesneg) Experts cast doubt on credibility of JFK terror plot. therawstory (4 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]
  11. (Saesneg) AMATEURS - NOT. The New York Post (8 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 1 Gorffennaf, 2007.[dolen marw]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]