Neidio i'r cynnwys

Cyngor Cydweithrediad y Gwlff

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Cydweithrediad y Gwlff
Map o aelod-wladwriaethau'r GCC.
Enghraifft o:sefydliad rhynglywodraethol, bloc masnach, cydweithrediad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1981 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBahrain, Coweit, Oman, Catar, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolITU Radiocommunication Sector, ITU Telecommunication Standardization Sector, ITU Telecommunication Development Sector Edit this on Wikidata
Isgwmni/auGCC-STAT Edit this on Wikidata
PencadlysRiyadh Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://gcc-sg.org/ar-sa/Pages/default.aspx, https://www.gcc-sg.org/en/Pages/default.aspx, https://gcc-sg.ae Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01g87g edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydliad rhynglywodraethol, cynghrair milwrol ac undeb economaidd rhanbarthol yng Ngwlff Persia yw'r Cyngor Cydweithrediad ar gyfer Gwladwriaethau Arabaidd y Gwlff,[1] (Arabeg: مَجلِس التَّعَاوُن لِدُوَلِ الْخَلِيْجِ الْعَرَبِيَّة), yn fyr Cyngor Cydweithrediad y Gwlff (Saesneg: Gulf Cooperation Council neu GCC; Arabeg: مجلس التعاون الخليجي), sy'n cynnwys chwe aelod: Bahrain, Catar, Coweit, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Oman, a Sawdi Arabia.[2][3] Lleolir prif bencadlys y cyngor yn Riyadh, prifddinas Sawdi Arabia.[4] Arwyddwyd Siarter y Cyngor ar 25 Mai 1981, gan sefydlu'r cyngor yn ffurfiol.[5]

Mae pob un o'r aelod-wladwriaethau cyfredol yn freniniaethau, gan gynnwys tair brenhiniaeth gyfansoddiadol (Bahrain, Catar, a Choweit),[6][7] dwy frenhiniaeth absoliwt (Oman a Sawdi Arabia), ac un frenhiniaeth ffederal (yr Emiradau Arabaidd Unedig, sy'n cynnwys saith emirad absoliwt). Cafwyd trafodaethau ynghylch derbyn Gwlad Iorddonen, Moroco, ac Iemen yn aelodau yn y dyfodol.[8][9] Irac ydy'r unig un o wladwriaethau Arabaidd y Gwlff nad yw'n aelod,[10][11] ac Iemen ydy'r unig wlad yng ngorynys Arabia nad yw'n aelod.

Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd yn 2012, cynigiodd Sawdi Arabia drawsnewid y Cyngor yn "Undeb y Gwlff" gyda rhagor o gydweithio ac integreiddio economaidd, gwleidyddol, a milwrol, i geisio gwrthbwyso dylanwad Iran yn y rhanbarth;[12] fodd bynnag, gwrthodwyd hyn gan wledydd eraill.[13][14] Yn 2014, meddai Khalifa bin Salman Al Khalifa, Prif Weinidog Bahrain, fod materion cyfoes yn y Dwyrain Canol yn amlygu pwysigrwydd y cynnig.[15] Ffurfiwyd Llu Tarian yr Orynys, cangen filwrol y Cyngor, ym 1984.[16]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "GCC Charter". Secretariat General of the Gulf Cooperation Council. Cyrchwyd 9 Ebrill 2021.
  2. Sara Hamdan (4 January 2012). "A Call for Private Investment in Gulf Health Care". New York Times. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2013.
  3. "U.A.E. Quits Gulf Monetary Union". Wall Street Journal. 21 Mai 2009. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2013.
  4. "Gulf Cooperation Council – GCC Countries". The balance. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2021. Cyrchwyd 13 Mai 2021.
  5. "Charter of the Gulf Cooperation Council (GCC)" (PDF). International Relations and Security Network. Cyrchwyd 2 Mawrth 2017.
  6. "US State Dept's Country Political Profile – Qatar" (PDF).
  7. "US State Dept's Country Political Profile – Bahrain" (PDF).
  8. Asma Alsharif (10 Mai 2011). "1-Gulf bloc to consider Jordan, Morocco membership". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2011. Cyrchwyd 10 Mai 2011.
  9. "Yemen to join GCC by 2015". Arabian Business. 26 Awst 2007. Cyrchwyd 15 Ebrill 2015.
  10. "Dulaimi confirmed that Iraq sought to join the Gulf Cooperation Council (GCC)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 May 2013.
  11. "Kuwait stresses necessity for Iraq to join GCC". قناه السومرية العراقية. Cyrchwyd 21 November 2014.
  12. Andrew Hammond (17 Mai 2012). "Analysis: Saudi Gulf union plan stumbles as wary leaders seek detail". Reuters.
  13. "Saudi Arabia Seeks Union of Monarchies in Region." New York Times, 14 Mai 2012.
  14. "Gulf Union on agenda at annual GCC summit". Al Arabiya News. english.alarabiya.net. 10 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 20 Awst 2014.
  15. "Gulf Union 'crucial for stability'". Gulf Digital News. 12 Awst 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 October 2015. Cyrchwyd 20 Awst 2014.
  16. "The Gulf Cooperation Council". Rebuild the Middle-East (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-07.