Cyngor Bwrdeistref Antrim

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Bwrdeistref Antrim
Comhairle Baile Aontroma

Bwrdeistref Antrim
Gwefan swyddogol [1] Archifwyd 2003-05-01 yn y Peiriant Wayback.

Cyngor rhanbarthol yn Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon yw Cyngor Bwrdeistref Antrim. Mae'n gweinyddu ardal o 220 milltir sgwar a phoblogaeth o bron i 50,000, lleolir 19 milltir i'r gogledd-orllewin o Belffast. Mae Antrim yn ffinio gynda glannau dwyreiniol a gogleddol Lough Neagh, y llyn dŵr croyw mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n cynnwys Antrim, Toomebridge, Crumlin, Randalstown, Parkgate a Templepatrick. Lleolir pencadlys y cyngor ar yrion tref Antrim. Er nad yw'r rhanbarth yn rhan o Ardal Metropolaidd Belffast, mae yn gartref i Faesawyr Rhyngwladol Belffast a nifer o bentrefi cymudo.

Etholiadau[golygu | golygu cod]

Mae'r fwrdeistref wedi ei rannu'n dri ardal etholaethol: De-Ddwyrain Antrim, Gogledd-Orllewin Antrim a Tref Antrim, ac o'r tri etholaeth rhain caiff 19 aelod o'r cyngor eu hethol. Caiff y partion gwleidyddol canlynol eu cynyrchioli ar y cyngor: 6 Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, 5 Plaid Unoliaethol Ulster, 2 Plaid Llafur a Democrataeth Cymdeithasol, 3 Sinn Féin a 2 Plaid Cyngrhair. Etholwyd y Cynghorwr Oran Keenan, fel cynghorwr Plaid Llafur a Democrataeth Cymdeithasol ond mae erbyn hyn yn gynghorwr annibynnol. Cynhelir etholiad pob pedair blynedd gan ddefnyddio'r system o gynyrchiolaeth cyfraneddol. Etholir y Maer a'r Is-Faer yn y Cyfarfod Cyffredinol yn flynyddol pob mis Mehefin. Adrian Cochrane-Watson (Plaid Unoliaethol Ulster) yw Maer Antrim ac Alan Lawther (Plaid Cyngrhair) yw'r Is-Faer.

Ymddeolodd Mel Lucas o'r Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd mewn gwrthwynebiad pan daethont yn rhan o glymblaid gorfodol gyda Sinn Féin yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.[1] Mae Lucas yn eistedd fel cynghorwra Unoliaethol Traddoliadol ar Gyngor Bwrdeistref Antrim erbyn hyn.[2]

Ynghyd â rhan o rhanbarth Newtownabbey, mae'n ffurfio rhan o Etholaeth De Antrim ar gyfer etholiadau Senedd San Steffan a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Economi[golygu | golygu cod]

Mae economi'r ardal yn canobwyntio ar adeiladu, dosbarthu, trafnidiaeth a lletygarwch. Mae gan yr ardal rwydwaith trafnidiaeth sydd wedi ei ddatblygu'n dda sy'n cyflenwi mynediad hawdd i'r holl fynedfeydd allanol yng Ngogledd Iwerddon a pob rhan o'r ardal. Mae tref Antrim yn sefyll lle mae dau brif goridor trafnidiaeth yn croesi, coridor Belffast – Derry a'r Corridor Deheuol. Lleolir Maesawyr Rhyngwladol Belffast 4 milltir o dref Antrim.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Another resignation from DUP fuels speculation. Ballymena Times.
  2.  Councillors & Committees. Antrim Borough Council.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]