Cynghrair Hoci Cenedlaethol
| Enghraifft o: | cynghrair chwaraeon broffesiynol, ice hockey league |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 26 Tachwedd 1917 |
| Yn cynnwys | Western Conference, Eastern Conference, 1917–18 NHL season, 1918–19 NHL season, 1919–20 NHL season, 1920–21 NHL season, 1921–22 NHL season, 1922–23 NHL season, 1923–24 NHL season, 1924–25 NHL season, 1925–26 NHL season, 1926–27 NHL season, 1927–28 NHL season, 1928–29 NHL season, 1929–30 NHL season, 1930–31 NHL season, 1931–32 NHL season, 1932-33 NHL season, 1933–34 NHL season, 1934-35 NHL season, 1935-36 NHL season, 1936–37 NHL season, 1937–38 NHL season, 1938–39 NHL season, 1939–40 NHL season, 1940–41 NHL season, 1941–42 NHL season, 1942–43 NHL season, 1943–44 NHL season, 1945–46 NHL season, 1945–46 NHL season, 1946–47 NHL season, 1947-48 NHL season, 1948–49 NHL season, 1949–50 NHL season, 1950-51 NHL season, 1951-52 NHL season, 1952–53 NHL season, 1953–54 NHL season, 1954–55 NHL season, 1955–56 NHL season, 1956–57 NHL season, 1957–58 NHL season, 1958–59 NHL season, 1959-60 NHL season, 1960–61 NHL season, 1961–62 NHL season, 1962–63 NHL season, 1963–64 NHL season, 1964-65 NHL season, 1965–66 NHL season, 1966–67 NHL season, 1967-68 NHL season, 1968–69 NHL season, 1969–70 NHL season, 1970–71 NHL season, 1971–72 NHL season, 1972–73 NHL season, 1973–74 NHL season, 1974–75 NHL season, 1975-76 NHL season, 1976–77 NHL season, 1977–78 NHL season, 1978–79 NHL season, 1979–80 NHL season, 1980–81 NHL season, 1981–82 NHL season, 1982–83 NHL season, 1983–84 NHL season, 1984–85 NHL season, 1985–86 NHL season, 1986–87 NHL season, 1987–88 NHL season, 1988–89 NHL season, 1989–90 NHL season, 1990–91 NHL season, 1991–92 NHL season, 1992-93 NHL season, 1993-94 NHL season, 1994–95 NHL season, 1995–96 NHL season, 1996–97 NHL season, 1997–98 NHL season, 1998–99 NHL season, 1999–2000 NHL season, 2000–01 NHL season, 2001–02 NHL season, 2002–03 NHL season, 2003–04 NHL season, 2004–05 NHL season, 2005-06 NHL season, 2006-07 NHL season, 2007–08 NHL season, 2008–09 NHL season, 2009–10 NHL season, 2010–11 NHL season, 2011–12 NHL season, 2012–13 NHL season, 2013–14 NHL season, 2014–15 NHL season, 2015–16 NHL season, 2016–17 NHL season, 2017–18 NHL season, 2018–19 NHL season, 2019-20 NHL season, 2020–21 NHL season, 2021–22 NHL season, 2022–23 NHL season, 2023–24 NHL season, 2024–25 NHL season, 2025–26 NHL season, 2026–27 NHL season |
| Rhagflaenydd | National Hockey Association |
| Pencadlys | Dinas Efrog Newydd |
| Enw brodorol | National Hockey League, NHL |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America, Canada |
| Gwefan | https://www.nhl.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05gwr |
| Quora | National-hockey-league |

Mae'r Gynghrair Hoci Cenedlaethol (Saesneg: National Hockey League; NHL; Ffrangeg: Ligue nationale de hockey, LNH) yn gynghrair hoci iâ proffesiynol yng Ngogledd America sydd ar hyn o bryd hyn cynnwys 31 o dimau: 24 yn yr Unol Daleithiau a 7 yng Nghanada. Mae'r NHL yn cael ei hystyried fel y prif gynghrair hoci iâ proffesiynol yn y byd,[1] ax yn un o'r prif gynghreiriau chwaraeon proffesiynol yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Cwpan Stanley, y tlws chwaraeon proffesiynol hynaf yng Ngogledd America,[2] yn cael ei wobrwyo yn flynyddol i bencampwyr y gynghrair ar ddiwedd pob tymor.
Cafodd y National Hockey League ei threfnu ar Tachwedd 26, 1917, yn y Windsor Hotel yn Montreal yn dilyn atal holl weithredoedd ei rhagflaenydd, y National Hockey Association (NHA), a sefydlwyd yn 1909 yn Renfrew, Ontario.[3] Cymerodd yr NHL le'r NHA ar unwaith fel un o'r cynghreiriau oedd yn cystadlu am Gwpan Stanley mewn cystadleuaeth rhyng-gynghreiriol cyn i gyfuno a chau nifer o gynghreiriau adael yr NHL fel yr unig gynghrair oedd yn cystadlu am y Cwpan yn 1926.
Pan sefydlwyd yr NHL, roedd gan y gynghrair bedwar tîm—pob un yng Nghanada, a hynny roddodd y "National" yn yr enw. Estynnwyd y gynghrair i'r Unol Daleithiau yn 1924, pan ymunodd y Boston Bruins, ac mae wedi cynnwys timau o'r Unol Daleithiau a Chanada ers hynny. Chwe thîm yn unig oedd yn y gynghrair rhwng 1942 a 1967, a galwyd hwy gyda'i gilydd yn y 'Chwe Gwreiddiol' ("Original Six"). Ychwanegodd y NHL chwe thîm newydd i ddyblu ei maint yn 1967. Cynyddodd eto i 18 o dimau erbyn 1974 a 21 tîm yn 1979. Rhwng 1991 a 2000, estynnodd yr NHL eto i 30 o dimau. Ychwanegwyd y 31ain tîm yn 2017 ac bydd yn ymestyn i 32 yn 2021.
Mae pencadlys y gynghrair wedi bod yn Ninas Efrog Newydd ers 1989 pan symudwyd y brif swyddfa yno o Montreal.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Marsh, James (2006). "National Hockey League". The Canadian Encyclopedia. Cyrchwyd June 11, 2006.
- ↑ "NHL.com – Stanley Cup Fun Facts". National Hockey League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 17, 2010. Cyrchwyd July 15, 2006. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ The National Hockey League Official Record Book & Guide 2009 77th Edition, p. 9. New York: National Hockey League (2008)
- ↑ Todd, Jack (September 17, 2012). "Americans and Bettman have stolen Canada's game". Calgary Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd January 31, 2018.