Cynghrair Corinth
Gwedd
| Enghraifft o: | koinon, gwlad ar un adeg |
|---|---|
| Daeth i ben | 322 CC |
| Dechrau/Sefydlu | 337 CC |
| Lleoliad | Macedonia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/015qjh |
- Gweler hefyd Corinth (gwahaniaethu).
Cynghrair hanesyddol o ddinas-wladwriaethau Groeg (a elwir hefyd Y Cynghrair Helenaidd) oedd Cynghrair Corinth. Fe'i ffurfiwyd yn 338 CC dan arweiniaeth Philip II o Facedon. Ei bwrpas oedd cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd â Macedonia yn erbyn yr Ymerodraeth Bersiaidd. Cyfrannodd y Cynghrair i gyrchoedd Alecsander Fawr yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol pan olynodd ei dad fel brenin Macedon yn 336 CC. Cafodd y Cynghrair ei ddirymu ar ôl marwolaeth Alecsander yn 323 CC. Cafodd ei atgyfodi am dymor byr yn 303 CC.