Cynghanedd Seinlusg Afrosgo
Math o gynghanedd a ymddangosodd yn Awdl arobryn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 (Bro Delyn), gan y Prifardd Robin Llwyd ab Owain yw'r Gynghanedd Seinlusg Afrosgo (neu Gynghanedd Erin ac weithiau yr Erin Wyrdro).[1]
Fe welir yn y llinell ganlynol, 'Mae'r gaeaf yn afon hefyd', fod tair rhan: yr odl yn y rhan gyntaf yn odli gyda goben yr ail ran fel a wneir mewn cynghanedd lusg: gaeaf + afon. Yna'r cytseiniaid yn yr ail a'r drydedd rhan yn cyfateb ('n' ac 'f').
Dyma enghreifftiau:
'Wyt rhin cyfriniol dy fron' (Merch yr Amserau. R.Ll.).[2]
'Yn senedd, gweddi a gwin' (Can yr Hen Filwr R.Ll.).
'Sipian o'r cuddfanau cwyr' (Olion Traed R. Ll.).
'Y glaw a'r awyr yn rhewi' (Annedd y Cynganeddwyr)
Fodd bynnag, nid yw'r gynghanedd hon wedi cael ei chyfundrefnu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhys, Iwan (5 Mai 2013). "Cynghanedd Erin". X. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2025.
- ↑ Karadog, Aneurin (5 Mai 2013). "Erin Wyrdro". X.