Cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig

Oddi ar Wicipedia
Cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig
Enghraifft o'r canlynolcynhadledd Edit this on Wikidata
MathCynhadledd y partïon, cynhadledd, amrywioldeb yr hinsawdd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1995 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1996 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Cynadleddau Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn gasgliad o gynadleddau blynyddol a gynhelir o fewn fframwaith Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC). Maent yn gwasanaethu fel cyfarfodydd ffurfiol o bartion UNFCCC (Cynhadledd y Partïon, COP) i asesu cynnydd wrth ddelio â newid hinsawdd, ac i drafod Cytundeb Kyoto i sefydlu rhwymedigaethau cyfreithiol i wledydd datblygedig i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr.[1]

Gan ddechrau yn 2005 mae'r cynadleddau hefyd wedi gwasanaethu fel "Cynhadledd y Partïon sy'n Gwasanaethu fel Cyfarfod y Partïon i Brotocol Kyoto" (CMP); hefyd gall partïon i'r confensiwn nad ydynt yn bartïon i'r protocol gymryd rhan mewn cyfarfodydd fel sylwedyddion. Rhwng 2011 a 2015 defnyddiwyd y cyfarfodydd i drafod Cytundeb Paris fel rhan o blatfform Durban, a greodd lwybr cyffredinol tuag at weithredu dros yr hinsawdd.[2] Rhaid cytuno ar unrhyw destun terfynol COP drwy gonsensws.[3]

Cynhaliwyd Cynhadledd Newid Hinsawdd gyntaf y Cenhedloedd Unedig ym 1995 yn Berlin.[4][5]

Crynodeb o Ddigwyddiadau[golygu | golygu cod]

Rhif Blwyddyn Enw Byr Enw Amgen Lleoliad Region
1 1995 COP 1 Berlin,

yr Almaen

Ewrop
2 1996 COP 2 Geneva,

y Swistir

Ewrop
3 1997 COP 3 Kyoto, Japan Asia
4 1998 COP 4 Buenos Aires,

yr Ariannin

De America
5 1999 COP 5 Bonn,yr Almaen Ewrop
6 2000 COP 6 Den Haag, yr Iseldiroedd Ewrop
7 2001 COP 6 Bonn,

yr Almaen

Ewrop
8 2001 COP 7 Marrakech, Moroco Affrica
9 2002 COP 8 New Delhi, India Asia
10 2003 COP 9 Milan, yr Eidal Ewrop
11 2004 COP 10 Buenos Aires,

yr Ariannin

De America
12 2005 COP 11 CMP 1 Montreal, Canada Gogledd America
13 2006 COP 12 CMP 2 Nairobi, Cenia Affrica
14 2007 COP 13 CMP 3 Bali, Indonesia Asia
15 2008 COP 14 CMP 4 Poznań, Gwlad Pwyl Ewrop
16 2009 COP 15 CMP 5 Copenhagen, Denmarc Ewrop
17 2010 COP 16 CMP 6 Cancún, Mecsico De America
18 2011 COP 17 CMP 7 Durban, De Affrica Affrica
19 2012 COP 18 CMP 8 Doha, Catar Y Dwyrain Canol
20 2013 COP 19 CMP 9 Warsaw, Gwlad Pwyl Ewrop
21 2014 COP 20 CMP 10 Lima, Periw De America
22 2015 COP 21 CMP 11 Paris, Ffrainc Ewrop
23 2016 COP 22 CMP 12 / CMA 1 Marrakech, Moroco Affrica
24 2017 COP 23 CMP 13 / CMA 1-2 Bonn, yr Almaen Ewrop
25 2018 COP 24 CMP 14 / CMA 1-3 Katowice, Gwlad Pwyl Ewrop
26 2019 SB50 Bonn, yr Almaen Ewrop
27 2019 COP 25 CMP 15 / CMA 2 Madrid, Sbaen Ewrop
28 2021 COP 26 CMP 16 / CMA 3 Glasgow,

yr Alban

Ewrop
29 2022 COP 27 CMP 17 / CMA 4 Sharm El Sheikh,

yr Aifft

Affrica
30 2023 COP 28 CMP 18 / CMA 5 Dubai, UAE Y Dwyrain Canol
31 2024 COP29 TBC

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "What is the UNFCCC & the COP". Climate Leaders. Lead India. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2009. Cyrchwyd 5 December 2009.
  2. Jepsen, Henrik; et al. (2021). Negotiating the Paris Agreement: The Insider Stories. Cambridge University Press. ISBN 9781108886246.
  3. "COP26: Rich countries 'pushing back' on paying for climate loss". BBC News (yn Saesneg). 8 November 2021. Cyrchwyd 8 November 2021.
  4. "Stages of climate change negotiations". Federal Ministry for the Environment, Nature Conservation, Building and Nuclear Safety. 27 December 2012. http://www.bmub.bund.de/en/topics/climate-energy/climate/international-climate-policy/climate-conferences/chronicle-of-climate-change-conferences/. Adalwyd 15 November 2016.
  5. "More Background on the COP". UNFCC. 2014. http://unfccc.int/bodies/body/6383.php. Adalwyd 15 November 2016.