Cymru Sovereign

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymru Sovereign
Arweinydd Gruffydd Meredith
Trysorydd Justin Lilley
Sefydlwyd Mawrth 2016 (2016-03)
Rhestr o idiolegau Cenedlaetholdeb Cymreig
Annibyniaeth i Gymru
Ewrosgeptiaeth Caled
Sofran Cymru
Senedd Cymru
0 / 60
Gwefan
http://www.cymrusovereign.cymru/

Mae Cymru Sovereign yn blaid wleidyddol Eurosceptig galed a genedlaetholdeb Cymreig yng Nghymru sydd wedi'i chofrestru a'i reoleiddio gan Gomisiwn Etholiadol y Deyrnas Unedig. Cafodd y blaid ei sefydlu a'i chofrestru'n ffurfiol ym mis Mawrth 2016 ar ôl bod yn grŵp yn lobïo ac yn deisebu Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae wedi'i gofrestru i sefyll mewn etholiadau yng Nghymru ac mae'n cydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.[1]

Mae'r blaid yn credu y dylai Cymru fod yn wladwriaeth hollol sofran yn y byd, y tu hwnt i reolaeth Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn Llundain a'r Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn cefnogi creu system punt ac arian sofran Cymraeg didyled i Gymru gyda'i banc ei hun.[2] Safodd y blaid yng Ngorllewin Casnewydd yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016, lle daeth yn olaf gyda 38 pleidlais.[3]

Mewn darn barn yn Y Cymro ar 10 Mai 2019 dywedodd arweinydd y blaid, Gruffydd Meredith, ei fod eisiau gweld Cymru yn ffynni fel gwlad annibynnol drwy greu arian ei hunan sydd yn rhydd o ddyled. Mae Meredith eisiau creu system economaidd Ryddfrydol, Laissez-faire, gan dorri rhydd o 'gaethwasaidd bresennol' yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig.[4]

Ymunodd y blaid mewn trafodaeth ar ôl Gorymdaith Annibyniaeth AUOB Caernarfon ar Orffennaf 2019. Roedd y fforwm rhwng pleidiau sy'n cefnogi Annibyniaeth; Plaid Cymru, Gwlad a Chymru Sovereign wedi ei chadeirio gan Dr. Carl Clowes.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gweld Cofrestriad - Cymru Sovereign - Comisiwn Etholiadol
  2. "Plaid newydd yn galw am "annibyniaeth lwyr" i Gymru". Golwg360. 4 Mai 2016. Cyrchwyd 2020-07-10.
  3. "Newport West - Welsh Assembly constituency - Election 2016". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-10.
  4. Meredith, Gruffydd (2019-05-10). "Gall, mi all Gymru ffynnu yn hyderus ac annibynnol wrth greu ei harian ei hun". Y Cymro. Cyrchwyd 2020-07-10.
  5. Gwyn Jôb, Aled (2019-07-24). "Saturday's march is an opportunity to set a political route map for independence". Nation.Cymru (Barn) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-10.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]