Neidio i'r cynnwys

Cymru Leagues

Oddi ar Wicipedia
Cymru Leagues
Enghraifft o:cystadleuaeth chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2019 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae'r Cymru Leagues yn enw ymbarél ar gyfer dwy haen uchaf system pêl-droed Cymru. Mae'n cynnwys y Cymru Premier ar Haen 1, yn ogystal â'r Cymru North a'r Cymru South yn yr ail haen.

Haen 1

[golygu | golygu cod]

Y Cymru Premier yw cynghrair pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae ganddo glybiau proffesiynol a lled-broffesiynol ac mae ar frig system pêl-droed Cymru. Cyn 2002, enw'r gynghrair oedd Cynghrair Cymru, ond newidiiodd ei enw fel rhan o gytundeb nawdd i Uwch Gynghrair Cymru. Mae'r gynghrair wedi'i ail-frandio i'r Cymru Premier ar gyfer tymor 2019-20.[1]

Haen 2

[golygu | golygu cod]

Y Cymru North a'r Cymru South yw'r ddwy gynghrair pêl-droed yng Nghymru sy'n ffurfio ail haen pêl-droed Cymru. Mae ganddynt glybiau lled-broffesiynol. Blwyddyn cyntaf eu gweithredu oedd 2019–20, gyda Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn berchen ar ac yn gweinyddu cynghreiriau Haen 2 am y tro cyntaf. Daeth y newidiadau hyn yn dilyn adolygiad o Byramid Pêl-droed Cymru,[2] lle'r oedd yr Ail Haen yn cael ei alw'n Bencampwriaeth CBDC.[3]

Mae'r haen wedi'i rannu'n ranbarthol, gyda'r Cymru North yn cynnwys clybiau sy'n chwarae yn y gogledd, a'r Cymru South yn cynnwys clybiau sy'n chwarae yn y de. Mae ennillwyr y ddau gynghrair yn gymwys am ddyrchafiad i'r Cymru Premier, yn amodol ar glybiau yn diwallu meini prawf CBDC am meysydd chwarae, cyfleusterau a gweithrediadau ariannol Haen 1.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "FAW / New identity for Tiers 1 & 2". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-10.
  2. "The Pyramid Review". Football Association of Wales.
  3. "Transitional regulations for the Pyramid League System" (PDF) (yn Saesneg). Welsh National League (Wrexham Area). 28 Mawrth 2018.