Neidio i'r cynnwys

Cymerwch, Bwytewch

Oddi ar Wicipedia
Cymerwch, Bwytewch
Enghraifft o:sioe theatr Gymraeg
Dyddiad cynharaf1977
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
IaithCymraeg
Cysylltir gydaTheatr Antur a Cwmni Theatr Cymru
Dynodwyr

Trydydd sioe gerddorol Theatr Antur o dan adain Cwmni Theatr Cymru oedd Cymerwch, Bwytewch o 1977, yn dilyn llwyddiant Byw yn y Wlad a Fflora a Portread yn flaenorol.[1] Crëwyd y sioe gan aelodau'r cwmni ar y pryd sef Valmai Jones, Siôn Eirian, Mei Jones, Cefin Roberts, Iola Gregory, Dyfan Roberts, Siân Morgan, Wyn Bowen Harries a Gruffudd Jones. Bu'r sioe ar daith o gwmpas Cymru ym 1977. "Afal Eden roddodd gychwyn i'r syniad", yn ôl rhaglen y cynhyrchiad.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Taid
  • Y Fam
  • Y Tad
  • Trefor, y mab
  • Ann, y ferch
  • Sandra, cariad Trefor
  • Y Drefn

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

"Er dyddiau Genesis y mae i'r afal briodoleddau sumbolaidd arbennig. Yn Cymerwch, Bwytewch fe ddefnyddir sumbol yr afal i gynrychioli gwybodaeth, ond nid yw'r cyflwyniad hwn yn ddehongliad o fyth Eden, er bod diniweidrwydd ac anfudd-dod yn elfennau pwysig yn y ddwy stori. Afal Eden roddodd gychwyn i'r syniad".[1]

Darlun o'r gymdeithas yn Nghymru'r 1970au yw sioe, wedi'i ganolbwyntio ar "deulu cyffredin". Ond beth petai "un aelod o'r teulu yn dechrau gwrthod y patrwm confensiynol o fyw ac yn mynd ati i herio awdurdod y drefn gydnabyddedig?".[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]
Rhaglen y daith 1977

Wedi sefydlu Theatr Antur ar gyfer yr actorion ifanc, roedd Cwmni Theatr Cymru am barhau i annog y cwmni i greu gwaith theatr arbrofol a heriol.[1]

Er mwyn "ychwanegu deimeniswn newydd" trefnwyd bod "band roc/jás" yn mynd ar daith gyda'r actorion, gyda dau aelod o'r grŵp roc Brân.[1]

Nodwyd bod "pwyslais mawr" wedi'i roi ar "waith byr-fyfyr fel sail i'r golygefydd a'r ddialog, gyda phob actor yn cyfrannu ei syniadau a'i eiriau ei hun". Yn yr un modd gyda'r cyfarwyddo, gyda Gruffydd Jones yn eu "arolygu".[1]

Noda'r rhaglen hefyd bod 5 aelod o'r criw presennol [Siôn Eirian, Wyn Bowen Harries, Mei Jones, Siän Morgan a Cefin Roberts] wedi bod yn cyd-weithio ers mwy na 18 mis, [ers Medi 1976] a'u bod i gyd yn gyd-fyfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru am flwyddyn. Daeth 2 aelod o'r criw lwyfanodd Byw yn y Wlad "yn ôl" sef Valmai Jones a Dyfan Roberts. Dyma daith cyntaf Iola Gregory gyda Theatr Antur.[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd a chrëwyd y sioe gan Theatr Antur o dan adain Cwmni Theatr Cymru ym 1977, a mynd ar daith ym mis Ebrill a Mai yr un flwyddyn. Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cyfansoddi a threfnydd cerdd Cenfyn Evans. Offerynnwyr Paul Westwell a David Pierce; cast:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Rhaglen y sioe. Theatr Antur / Cwmni Theatr Cymru. 1977.