Cymdeithas yr Hoelion Wyth

Oddi ar Wicipedia
Logo Cymdeithas yr Hoelion Wyth

Cymdeithas Gymraeg i ddynion yw Cymdeithas yr Hoelion Wyth a cheir canghennau ar hyd yr hen sir Dyfed. Gelwir hi yn "Merched y Wawr i ddynion".[1]

Disgrifia'i hun fel mudiad Cymraeg, gwledig, gwerinol i ddynion gyda phwyslais mawr ar hwyl gwerinol, sy'n cefnogi achosion da a dyngarol, y Pethau, mudiadau a Sefydliadau Cymraeg a Chymreig. Noda ei bod yn "sefyll lan dros yr iaith, Cymru a’i phobol".

Sefydlwyd y Gymdeithas yn Aberporth yn 1973 yn sgil sefydlu Merched y Wawr tua'r un adeg. Y prif sefydlwyr yn Aberporth oedd John Davies, y Prifardd Dic Jones a awgrymwyd yr enw gan Gwynfor Harries, gôf lleol. Dyfeisiwyd y logo gan Denfa Rees, y darian gan Dai Williams a’r arwyddair “Nid rhwd anrhydedd hoelen” gan Eddie Morgan, a thlws yr Eisteddfod gan Ken Waters.

Yr ail gangen i'w sefydlu oedd cangen Hendy-gwyn ar Daf. Ithel Parry-Roberts oedd symbylydd ac erbyn 1986 roedd pedair cangen wedi eu sefydlu – Aberporth, Hen Dy Gwyn, Wes Wes a Siôn Cwilt.

Mae i'r mudiad 6 cangen:

  • Banc Siôn Cwilt
  • Wes Wes (Ardal Tŷ Ddewi)
  • Hen-Dy-Gwyn
  • Beca (Efailwen)
  • Aberporth
  • Cors Caron

Cynhelir Eisteddfod Flynyddol gan y Gymdeithas.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cymdeithas Hoelion Wyth: 'Merched y wawr i ddynion' yn 50 oed". BBC Cymru Fyw. 17 Tachwedd 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.