Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru

Oddi ar Wicipedia

Sefydliad sy'n ymgyrchu i wneud delfrydau'r Cenhedloedd Unedig yn realiti yw Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig Cymru (UNA Cymru). Mae'n ymgyrchu, yn lobïo ac yn codi ymwybyddiaeth am faterion diarfogi, atal gwrthdaro, datblygu cynaliadwy a hawliau dynol. Ei nod yw hyrwyddo trafodaeth wybodus am faterion rhyngwladol, gan gynnwys am system y Cenhedloedd Unedig ei hun.

Mae UNA Cymru wedi'i leoli yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, ac mae'n gysylltiedig â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]