Cymdeithas i Famau a Merched Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas i Famau a Merched Cymru
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata

Roedd Cymdeithas i Famau a Merched Cymru yn fudiad wladgarol i hybu mamau i basio'r Gymraeg a Christnogaeth i'w plant. Sefydlwyd y mudiad yn 1920.

Ymddengys i'r Gymdeithas fod yn lled-weithgar yn ystod yr 1920au. Ymysg aelodau y mudiad credir i Ellen Evans, Pennaeth Coleg Hyfforddi Morgannwg - coleg hyfforddi athrawesau yn y Barri, a dynes ddylanwadol iawn yn y cyfnod - fod yn aelod.[1]

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Roedd Cymdeithas i Famau a Merched Cymru yn rhan o fwrlwm mewn athroniaeth a gweithgaredd gwladgarol os nad cenedlaetholdeb Gymreig yn fuan wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf gyda nifer o'r prif symbylwyr yn plethu ar draws sawl mudiad. Ymysg y mudiadau eraill o'r cyfnod oedd:

Cylch Dewi
Cylch Cadwgan
Urdd Gobaith Cymru - sefydlwyd 1922
Plaid Cymru - sefydlwyd 1925

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, Sian Rhiannon. "Rediscovering Ellen Evans" (PDF). Gwefan Y Cymmrodorion yn dyfynnu erthygl gan SRhW yn 'Y Ferch a’r Gymraeg yng Nghymoedd Diwydiannol De Cymru, 1914–45' yn llyfr Gwasg Prifysgol Cymru, Eu Hiaith a Gadwant?. t. 112. Cyrchwyd 2022-02-16.