Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas Cwrlo Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Cwrlo Cymru
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolWorld Curling Federation Edit this on Wikidata
PencadlysCanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy lle sefydlwyd y Gymdeithas yn 1974

Sefydlwyd Cymdeithas Cwrlo Cymru (Saesneg: Welsh Curling Association) yn 1974 (noder y sillefir "cwrlo" fel "cwrlio" yn eu teitl). Dyma'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer y gamp yng Nghymru. Ar wahân i westeion, mae pob cwrlwr sy'n chwarae yng Nghymru yn aelod o'r WCA, ac yn talu ardoll flynyddol tuag at ei chynnal. Mae’r WCA yn gyfrifol am ddewis timau – drwy dwrnament cenedlaethol neu ddulliau eraill – i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.[1]

Pictogram cwrlio

Sefydlwyd CCC yng nghanolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy. Mae'r ffaith bod holl aelodau pwyllgor Cymdeithas Cwrlio Cymru wedi bod yn chwaraewyr Glannau Dyfrdwy, ac felly'n rhan o Dalaith Gyntaf Cymru ('First Province of Wales'), yn gyfan gwbl oherwydd nad oes unrhyw leoliadau parhaol eraill ar gyfer cyrlio yng Nghymru. Os sefydlir cyrlio ar ail rinc yng Nghymru, y CCC fydd y corff llywodraethu, a hefyd yn goruchwylio cwrlo yno.[1]

Cystadlu

[golygu | golygu cod]

Mae Cymru’n rhoi timau i mewn i nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys cystadlaethau Dynion Ewropeaidd, Byd Cymysg, Dwbl Cymysg y Byd a Chystadlaethau Hŷn y Byd, sy’n cael eu rhedeg yn flynyddol gan Ffederasiwn Cyrlio’r Byd.[1]

Mae Cymru wedi cystadlu yn erbyn gwledydd megis; Sbaen, Slofenia, Lloegr, Twrci, Awstria, Slofacia, a Slofenia yn y gamp. Bu iddynt guro Lloegr a Slofenia.[2] Mae tîm y dynion hefyd wedi cystadlu mewn cystadlaethau megis Pencampwriaeth Cwrlo Hŷn y Byd yn Sweden yn 2024.[3]

Mae Cymru yn aelodau o 'World Curling', corff llywodraethol y gamp. Yn 2024 roedd Cymru wedi eu lleoli yn rhif 27 fel ranc ryngwladol allan o'r 97 aelod.[4] yn rancio yn rhif 38 ar gyfer tîm menywod,[5] a rhif 43 allan o 51 yn y dosbarth cwrlio cymysg.[6]

Cystadleuaeth ddomestig

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd cystadleuaeth Bonspiel Cymru (Welsh Bonspiel) yn 1978 yng nghartref Cwrlo Cymreig, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Oherwydd prinder canolfannau sglefrio yng Nghymru ac felly unman i gynnal y digwyddiad, mae wedi cael llawer o gartrefi dros dro yn yr Alban gan gynnwys Forest Hills, Letham Grange a Greenacres Curling Club.[7]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "About us". Gwefan Cymdeithas Cwrlo Cymru. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  2. "Blog". Gwefan CCC. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  3. "World Senior Curling Championships". Gwefan CCC. 13 Mai 2024.
  4. "Men's Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  5. "Women's World Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  6. "Mixed Doubles World Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  7. "Welsh Bonspiel". Gwefan CCC. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.