Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd1921
Aelod cywllt o FIFA1923
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddPaddy McCaul
Gwefanfai.ie

Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon yn Saesneg, Football Association of Ireland (FAI; Irish: Cumann Peile na hÉireann) yw corff llywodraethol pêl-droed yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ni ddylid ei cham-gymryd am y Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon yr Irish Football Association sef, corff llywodraethol pêl-droed yng Ngogledd Iwerddon.

Trefniaethaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r Gymdeithas yn gyfrifol am weinyddu pêl-droed (byd-eang, nid pêl-droed Wyddelig) yn y Weriniaeth gan gynnwys Tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon a Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon (y 'League of Ireland') a'r cynghreiriau is. Ceir cymdeithasau sy'n ddarostynegied a rhan o'r Gymdeithas:

  • Cymdeithasau pêl-droed taleithiol: Leinster, Munster, Connacht ac Ulster (3 o 9 sir draddodiadol y dalaith, y 6 arall yng Ngogledd Iwerddon)
  • Cymdeithasau arwahâ ar gyfer ysgolion, prifysgolion a cholegau
  • Cynghreiriau Ieuenctid
  • Menywod yr FAI
  • Dyfarnwyr
  • Lluoedd Arfog
  • Tîm bechgyn ysgol Iwerddon

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr FAI ym mis Medi 1921 yn Nulyn yn dilyn Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon. Haws meddwl amdanno fel rhwyg oddi ar yr IFA (Irish Football Association), sef y corff cenedlaethol, holl ynys Iwerddon a sefydlwyd yn 1880 ac a barhaodd fel corff a thîm 'cenedlaethol' Gogledd Iwerddon.

Ymrannu[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr IFA yn Belffast ac mae angen cofio fod pêl-droed wedi bod yn gryfach yng Ngogledd Iwerddon ac ymysg Protestaniaid nac yn y De. Roedd hyn yn rannol oherwydd gwaharddiad y cymdeithas Campau Gwyddelig, y GAA (gemau hurling a phêl-droed Gwyddelig ar i'w haelodau gymryd rhan neu wylio 'gemau tramor'. Teimlau aelodau Cymdeithas Bêl-droed Leinster (talaith Dulyn) bod gogwydd rhy drwm tuag at ardal Belffast a diffyg buddsoddi yn y gêm mewn rhannau eraill o'r ynys. Arweiniodd y Rhyfel Annibyniaeth at densiwn o fewn y Gymdeithas holl-ynys, gyda'r mynychwyr o'r gogledd yn dueddol o fod yn Unoliaethwyr ac o'r de yn genedlaetholwyr. Yn y pen-draw, arweinodd penderfyniad yr IFA i chwarae ail-gymal gêm ffeinal Cwpan Iwerddon (unedig ar y pryd) rhwng tîm gogleddol Glenavon yn erbyn Shelbourne (Dulyn) yn Belffast yn hytrach na Dulyn, fel y buasai confensiwn wedi awgrymu, fel y weithred olaf a arweiniodd at y rhwyg.[1]

Ni arweiniodd y rhwyg o fewn y gymdeithas bêl-droed IFA i'r un rhwyg mewn gemau eraill fel rygbi lle ceir un tîm o hyd i'r holl ynys.

I gwychwyn, hawliau'r ddwy gymdeithas, yr FAI (de) a'r IFA (gogledd) eu bod yn cynrychioli'r holl ynys. Bu ymgpiprys am hyn am beth amser.

Derbyniwyd yr IFA fel aelod o FIFA yn 1923 o dan yr enw FAIFS (Football Association of the Irish Free State) yn seiliedig ar diriogaeth 26 sir y Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (y 'Free State'). Dyma'r drefn a dderbyniwyd, er bod dinas Derry yn chwarae yn y De ers 1985 yn dilyn cytundeb gyda FIFA a'r IFA.

Ceisiwyr ail-uno'r ddwy gymdeithas. Trefnodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr gyfarfod yn Lerpwl yn 1924 i geisio cymodi. Bu bron i'r ddwy ochr ddod at drefniadaeth ffederal ond mynodd yr IFA (gogledd) ar fod yn gyfrifol am y cadeirydd ar bwyllgor dewis y tîm ryngwladol. Cafwyd cyfarfod arall yn 1932 ond methodd hon yn dilyn yr FAIFS (Gweriniaeth Rydd, De) ar un o'r ddau le fel cynrychiolwyr ar Fwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (International Football Association Board) - dyma'r corff holl-bwysig sy'n gyfrifol am reolau'r gêm yn fyd-eang, er mai cynrychiolwyr o Gymru, Lloegr, yr Alban a FIFA yw'r aelodau.[2] Cafwyd hefyd ymdrechion eraill rhwng 1973 a 1980 yn ystod blynyddoedd gwaethaf y 'Trafferthion' yng ngogledd Iwerddon.[3]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

1880 – Sefydlu'r IFA yn Belfast, cynrychioli Iwerddon oll, tîm ("Iwerddon")
1921 – Sefydlu'r FAI yn Nulyn, dewis chwaraewyr o Dde Iwerddon ("Gwladwriaeth Rydd Iwerddon")
1936 – Yr FAI yn dechrau dewid chwaraeon o'r Gogledd ("Iwerddon"/"Éire")
1946 – Yr FAI yn stopio dewis chwaraewyr o Ogledd Iwerddon ("Gweriniaeth Iwerddon" ers 1954)
1950 – Yr IFA yn stopio dewis chwaraewyr o'r De ("Gogledd Iwerddon" ers 1954)

Felly,

IFA (heddiw Gogledd Iwerddon) cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1880–1950
FAI (heddiw Gweriniaeth Iwerddon) yn cynrychioli Iwerddon oll rhwng 1936–1946

Cystadlaethau[golygu | golygu cod]

Mae'r FAI yn gyfrifol a gynnal cystadlaethau pêl-droed yn y Weriniaeth. Sefydlwyd Cynghrair Iwerddon, y 'League of Ireland' yn 1921, dri mis cyn sefydlu'r Gymdeithas bêl-droed ei hun. Sefydlwyd yr FAI Cup yn fuan wedyn, a rhwng 1923 at 1936 fe'i gelwid yn 'The Free State Cup'. Shamrock Rovers sy'n dal y record am y mwyafrif o fuddugoliaethaeth - 24. Sefydlwyd Cwpan Cynghrair Iwerddon (League of Ireland Cup) yn 1974. Ceir hefyd The President's Cup, sef cwpan mewn teyrnged i Arlywydd Iwerddon a chwareir rhwng enillydd Cwpan Iwerddon ac enillydd Cynghrair Iwerddon.

Bu hefyd sawl ymdrech ar greu cystadleuaeth rhwng timau o'r Werinaieth a Gogledd Iwerddon sef y Setanta Cup a bu'r FAI yn cydweithio gyda'r IFA ar hyn.

Ceir cystadlaethau eraill yn ôl oedran a'r FAI sy'n gyfrifol am dîm Iwerddon yn y Gemau Olympaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Garnham, Neal (2004). Association Football and society in pre-partition Ireland. Belfast: Ulster Historical Foundation. ISBN 1-903688-34-5. Chapter 6: "The game 1914-24: decline and division"
  2. Ryan, Sean (1997). The Boys in Green: the FAI international story. Edinburgh: Mainstream Publishing. ISBN 1-85158-939-2. pp. 23-5
  3. Moore, Cormac (2015). The Irish Soccer Split. Cork University Press. ISBN 9781782051527. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-09. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.