Cyhyryn deuben

Oddi ar Wicipedia

Mewn anatomeg dynol, cyfeiria'r cyhyryn deuben (Saesneg:biceps brachii neu biceps yn unig) at gyhyryn gyda dau ben, sydd wedi'i leoli ar ran uchaf y fraich. Cwyd y ddau ben ar badell yr ysgwydd gan ymuno i ffurfio cyhyryn unigol sydd wedi ei gysylltu â rhan uchaf yr elin. Er bod y cyhyryn deuben yn croesi cymalau'r ysgwyddau a'r penelin, gwna ei brif swyddogaeth gyda'r penelin lle mae'n ystwytho'r penelin ac yn dyleddfu'r elin. Defnyddir y symudiadau hyn pan yn gwneud rhywbeth fel pan yn agor botel gyda chorcsgriw: yn gyntaf bydd y cyhyryn deuben yn dadsgriwio'r corcyn (swpinadiad), ac yna mae'n tynnu'r corcyn allan (ystwythiad).

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.