Cyfres y Canrifoedd
Gwedd

Cyfres o flodeugerddi yn y Gymraeg a gyhoeddwyd gan Cyhoeddiadau Barddas yn ystod yr 1980au hwyr a'r 90au yw Cyfres y Canrifoedd. Maent yn gyfrolau mawrion sy'n cynnwys detholiadau sylweddol o Farddoniaeth Gymraeg wedi'u trefnu yn ôl canrif, dan olygyddiaeth ystod o olygyddion.
Cyfrolau'r Gyfres
[golygu | golygu cod]Pum cyfrol a gyhoeddwyd yn y gyfres, sef:
- Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1988), gol. R. M. Jones.
- Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (1991), gol. E. G. Millward.
- Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg (1993), gol. Nesta Lloyd. Noda'r clawr mai 'Cyfrol 1' yw hon, a dim ond cerddi o hanner gyntaf y 17g sydd ynddi; fodd bynnag ni chafwyd ail gyfrol erioed.
- Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y Ddeunawfed Ganrif (1993), gol. A. Cynfael Lake.
- Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg (1998), gol. Dafydd Johnston.
Rhagflaenwyd y gyfres yn 1987 gan
Roedd y gyfrol hon yn debyg o ran maint, trefn a naws i'r cyfrolau yng Nghyfres y Canrifoedd, a chyfeiriodd R. M. Jones yn ôl ati yn ei ragymadrodd i'r gyfrol ar yr 19g wrth esbonio absenoldeb John Morris-Jones o'i ddetholiad yntau.[1] Fodd bynnag, nid ymddangosodd yr enw Cyfres y Canrifoedd ar y gyfrol honno, ac roedd yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng Barddas a Gwasg Gomer.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ R. M. Jones (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas.