Cyfres Y Ddrama yn Ewrop
| Enghraifft o: | dramâu llwyfan |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1962 |
| Golygydd | Emyr Humphreys |
| Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1960-1980 |
| Math | dramâu llwyfan |
| Cyfres | Y Ddrama yn Ewrop |
| Dynodwyr | |
- Gweler hefyd y gyfres Cyfres Dramâu'r Byd.
Cyfres o gyfieithiadau Cymraeg o ddramâu llwyfan o Ewrop yw Cyfres Y Ddrama yn Ewrop. Fe gomisiynwyd y cyfieithiadau cychwynol ar gyfer y gyfres ddrama-radio Gymraeg ar Radio'r BBC, Y Ddrama yn Ewrop, a ddarIledwyd dros gyfnod o 6 mis rhwng 15 Tachwedd 1962 a 23 Ebrill 1963. Ni chyhoeddwyd nifer o'r dramâu cynnar, ond mae copïau o'r sgriptiau ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nododd Hywel Davies, pennaeth rhaglenni BBC Cymru wrth y Daily Post yn Nhachwedd 1962, mai'r gyfres radio hon [ar gyfer y "Welsh Home Service"] oedd "ein menter fwyaf uchelgeisiol ym maes drama".[1] Y bwriad cychwynol oedd cynhyrchu 10 drama radio gan gychwyn darlledu gydag Wrth aros Godot o waith Saunders Lewis.[1]
Dramâu hir yw'r mwyafrif a gyfieithwyd gan ddramodwyr fel Samuel Beckett, Bertolt Brecht, Max Frisch, Friedrich Dürenmatt a Jean-Paul Sartre. Ymysg y cyfieithwyr i'r Gymraeg mae llenorion megis Saunders Lewis, Pennar Davies, Islwyn Ffowc Elis a Gareth Miles. Aelodau'r Bwrdd Golygyddol oedd Emyr Humphreys, Bedwyr Lewis Jones, Meirion Edwards a Gwyn Thomas.[2]
Heb eu Cyhoeddi
[golygu | golygu cod]

| Blwyddyn | Teitl Cymraeg | Cyfieithiad Cymraeg | Teitl Wreiddiol | Dramodydd gwreiddiol |
|---|---|---|---|---|
| 1962 | Yr Eithriad i'r Rheol | Pennar Davies | Die Ausnahme Und Die Regel (c1930) | Bertolt Brecht [3] |
| 1962 | Noson o Hydref | Rhiannon a Myrddin Lloyd | Episode on an autumn evening (1959) | Friedrich Dürenmatt[4] |
| 1963 | Y gôt fawr | Islwyn Ffowc Elis | Il Mantello (1960) | Dino Buzzati.[5] |
| 1963 | Angau ar Ynys y Geifr | Islwyn Ffowc Elis | Delitto All'isola Delle Capre (1948) | Ugo Betti.[6] |
| 1963 | Mr Biedermann a'r Llosgwyr Tai | Dilys M. Price | Herr Biedermann und die Brandstifer (1958) | Max Frisch.[7] |
| 1963 | Edward ag Agripina | John Watkins | Édouard et Agrippine (1960) | Rene de Obaldia.[8] |
| 1963 | Y Ddau Ddienyddiwr | Gareth Alban Davies | Les Deux Bourreaux (1958) | Fernando Arrabal.[9] |
| 1963 | Y Ceffylau Bach | J. Idris Evans | Huis Clos (1944) | Jean-Paul Sartre.[10] |
| 1963 | Yn Ferthyron i Ddyletswydd | Gareth Miles | Victimes du Devoir (1953) | Eugène Ionesco.[11] |
Wedi eu Cyhoeddi
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl Cymraeg | Cyfieithiad Cymraeg | Teitl Wreiddiol | Dramodydd gwreiddiol |
|---|---|---|---|---|
| 1962
(cyhoeddi 1969) |
Wrth Aros Godot | Saunders Lewis | En Attendant Godot | Samuel Beckett |
| 1969 | Diwéddgan | Gwyn Thomas | Fin de Partie | Samuel Beckett |
| 1970 | Gwylan | W. Gareth Jones | Tshaica | Anton Chekov |
| 1970 | Y Claf Diglefyd | Bruce Griffiths | La Malade Imaginaire | Jean-Baptiste Molière |
| 1972 | Oidipos Frenin | Euros Bowen | Oedipus Rex | Soffocles |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Welsh Drama". Daily Post. 13 Tachwedd 1962.
- ↑ Lewis, Saunders (1970). Wrth aros Godot. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "'Yr Eithriad i'r Rheol', cyfieithiad Pennar Davies o Die Ausnahme Und Die Regel gan Bertolt Brecht, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ddrama yn Ewrop', - Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y gôt fawr', cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Il Mantello gan Dino Buzzati, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Angau ar Ynys y Geifr', cyfieithiad Islwyn Ffowc Elis o Delitto All'isola Delle Capre gan Ugo Betti, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Mr Biedermann a'r Llosgwyr Tai', cyfieithiad Dilys M. Price o Herr Biedermann und die Brandstifer gan Max Frisch, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Edward ag Agripina', cyfieithiad John Watkins o Édouard et Agrippine gan Rene de Obaldia, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ddau Ddienyddiwr', cyfieithiad Gareth Alban Davies o Les Deux Bourreaux gan Fernando Arrabal, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Y Ceffylau Bach', cyfieithiad J. Idris Evans o Huis Clos gan Jean-Paul Sartre, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.
- ↑ "'Yn Ferthyron i Ddyletswydd', cyfieithiad Gareth Miles o Victimes du Devoir gan Eugene Ionesco, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-07.