Neidio i'r cynnwys

Cyflafan München

Oddi ar Wicipedia
Cyflafan München
Llechen goffa ddwyieithog, yn Almaeneg ac Hebraeg, ger safle'r gyflafan yn Connollystraße 31, München.
Enghraifft o:llofruddiaeth dorfol, argyfwng gwystlon, ymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
DyddiadMedi 1972 Edit this on Wikidata
Lladdwyd12, 5 Edit this on Wikidata
Rhan oGemau Olympaidd yr Haf 1972, Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Medi 1972 Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Medi 1972 Edit this on Wikidata
LleoliadOlympic Village, Munich, Fürstenfeldbruck Air Base, München Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGorllewin yr Almaen Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/058p6 edit this on wikidata
QuoraMunich-massacre edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymosodiad terfysgol yn erbyn tîm Olympaidd Israel oedd cyflafan München a gyflawnwyd gan y grŵp milwriaethus Palesteinaidd Medi Du yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1972 ym München, Gorllewin yr Almaen. Ar 5 Medi, yn ystod ail wythnos y gemau, dygwyd cyrch ar y Pentref Olympaidd gan wyth o Balesteiniaid, gan ladd dau aelod o dîm Israel a chymryd naw arall yn wystlon. Wedi diwrnod o drafodaethau â'r heddlu, teithiodd y terfysgwyr gyda'r gwystlon i Faes Awyr Fürstenfeldbruck, ac yno lansiwyd cyrch aflwyddiannus i achub gwystlon. Saethwyd pump o'r terfysgwyr yn farw gan yr heddlu, ond cafodd pob un o'r gwystlon, yn ogystal â phlismon o Almaenwr, eu lladd cyn i'r frwydr ddod i ben.[1]

Cafodd y tri therfysgwr a oroesodd eu harestio, ond fe'u rhyddhawyd ar 29 Hydref 1972 wedi i gefnogwyr Medi Du awyrgipio Ehediad Lufthansa 615, a mynnu rhyddhau'r tri yn gyfnewid am beidio â ffrwydro'r awyren. Casglwyd y tri a'u cludo i loches yn Libia.

Ymatebodd Israel drwy lansio ymgyrch gudd gan Mossad i ganfod a lladd pob un o'r rhai a gyhuddwyd o gael rhan yn yr ymosodiad. Fodd bynnag, ni lwyddwyd i ladd Abu Daoud, y prif gynllwyniwr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Munich massacre. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2025.