Cyflafan Hungerford
Jump to navigation
Jump to search
Llofruddiaeth dorfol yn Hungerford, Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ar 19 Awst 1987 oedd Cyflafan Hungerford. Saethwyd 16 o bobl yn farw gan Michael Ryan. Ar ôl sbri saethu a barodd am chwe awr, saethodd Ryan ei hunan yn farw.[1]
O ganlyniad i'r cyflafan pasiwyd Deddf Drylliau (Gwelliant) 1988 gan wahardd reifflau lled-awtomatig, reifflau pwmpio, arfau sy'n tanio defnydd ffrwydrol, gynnau siot byrion gyda magazines, a reifflau hunanlwythol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Williams, Adam (18 Awst 2012). Hungerford massacre: Reluctant remembrance 25 years on. BBC. Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.
- ↑ (Saesneg) Britain's changing firearms laws. BBC (12 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 19 Mawrth 2013.