Cyflafan Columbine
Jump to navigation
Jump to search
Llofruddiaeth dorfol yn Ysgol Uwchradd Columbine yn Swydd Jefferson ger Littleton, Colorado, Unol Daleithiau America, ar 20 Ebrill 1999 oedd Cyflafan Columbine. Llofruddiodd dau fyfyriwr, Eric Harris a Dylan Klebold, 12 myfyriwr ac athro cyn eu lladd eu hunain. Fe wnaethon nhw osod bomiau yn yr ysgol ac yn ei chyffiniau, a defnyddio drylliau i gyflawni'r llofruddiaethau.
Mae'r ffilm ddogfen Bowling for Columbine gan Michael Moore yn adrodd hanes y digwyddiad.