Cyfieithiadau i'r Gymraeg
Mae hanes hir i gyfieithu o ieithoedd y byd i'r Gymraeg. Y Beibl, a droswyd o'r testunau Groeg a Hebraeg gwreiddiol gan yr Esgob William Morgan, yw sylfaen yr iaith lenyddol heddiw.[1] O'r Saesneg mae tarddiad Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne er mai addasiad gwreiddiol ydyw yn hytrach na chyfieithiad, ac roedd y testun Saesneg yn ei dro yn seiliedig ar waith Sbaeneg, sef Los Suenos.
Mae cyfresi fel Cyfres y Werin a gyhoeddwyd yn y 1920au a Dramâu'r Byd gan Wasg Prifysgol Cymru, Dramâu Aberystwyth, Chyfres yr Academi a Storïau Tramor yn y 1970au gan yr Academi Gymreig wedi bod yn rhan o ymdrechion i ddod â llenyddiaeth orau'r byd i'r darllenydd Cymraeg.
Sefydlwyd cwmni Melin Bapur yn 2024 sydd wedi cyhoeddi nifer o gyfieithiadau yn cynnwys gwaith gan George Orwell, H.G. Wells, Flann O'Brien a J. R. R. Tolkien.
Rhestr o ieithoedd a llyfrau a droswyd i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Yr Adduned (Das Versprechen 1958) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Robat G. Powell, Cyfres yr Academi (Gwasg Gee, 1976)
- Y Twnel (Der Tunnel), stori fer gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Ioan Bowen Rees, Taliesin 33 (Rhagfyr 1976), tud. 21. Troswyd i ddathlu rhoi Gwobr yr Academi iddo.
- Y Ffisegwyr (Die Physiker 1962) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Damian Walford Davies, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1991)
- Ymweliad yr Hen Foneddiges (Der Besuch der Alten Dame, 1956) gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan John Gwilym Jones a G. L. Jones, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- Un Noson yn yr Hydref (Abendstunde im Spätherbs, 1959) drama radio gan Friedrich Dürrenmatt, cyfieithwyd gan Rhiannon John a David Myrddin Lloyd, Taliesin 32 (Gorffennaf 1976), tud. 8–29
- Ymwelwyr Annisgwyl a Storïau Eraill (Erzahlungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Dafydd Andrews, Cyfres yr Academi 6 (Academi Gymreig, 1980)
- Y Chwarddwr (Der Lacher, 1952, o Erzählungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan W. Lloyd Griffith, Taliesin 71 (Medi 1990), tud. 55–56
- Nos Galan (Krabat 1971) gan Otfried Preussler, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Y Dref Wen, 1974)
- Ôl Traed yn y Tywod (Spuren im Sand, 1953) gan Hans Werner Richter, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1968)
- Gwyrdd fel Afal Awst gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Gwasg Gomer, 1970)
- Dyma'r Dyn i Mi gan Horst T Tiedke, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones. (Llyfrau'r Faner, 1971)
- Priodi ar Brawf gan Paul Georg Kaufmann, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Gwasg John Penri, 1971)
- Rhybudd: Trofeydd gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1972)
- Christina gan Eva Marianne Gowerius, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1973)
- Carnifal gan G Hauptmann a Heinrich Böll, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1974)
- Pinc a Gwyn - Pinc a Coch gan Hans Werner Richter, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1975)
- Llond Ceg o Lwc gan Horst Biernath, cyfieithwyd gan John Elwyn Jones (Aberystwyth: Cambrian News Cyf, 1978)
- Storïau Tramor 2 Tri gwahanol awdur Almaeneg), gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Anna Welw ("Die Blasse Anne") gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- Yr Antur ("Das Abenteuer") gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan Robat G Powell
- Y Wraig wrth yr Olwyn ("Dame am Steuer") gan Gertrud Fussenegger, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- Yn y Trocadero ("Im Trocadero") gan Wolfdietrich Schnurre, cyfieithwyd gan Glyn Morris
- Tranc yr Ysfa Waith (Anekdote zur Senkung der Arbeitsmoral, 1963, o Erzählungen 1950–1970) gan Heinrich Böll, cyfieithwyd gan W. Lloyd Griffith, Taliesin 75 (Hydref 1991), tud. 36–38
- Trotski'n Alltud (Trotski im Exil 1969) gan Peter Weiss, cyfieithwyd gan Gwyn Thomas ac Ian Hilton, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru 1979)
- Barddoniaeth Rilke (detholiad) (detholiad 1894–1926) gan Rainer Maria Rilke, cyfieithwyd gan John Henry Jones, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol VI (1984; fersiwn gwreiddiol ym 1945)
- Faust 1994 (Faust. Eine Tragödie 1808) cyfieithiad R. Gerallt Jones, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1994)
- Metamorffosis (Die Verwandlung, 1915) gan Franz Kafka. Addasiad ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cyfieithiad/cyhoeddwyd gan Iawn.Cymru, 2021. ISBN 978-1-5272-8579-8
- Faust gan Johann Wolfgang von Goethe, cyfieithwyd gan Thomas Gwynn Jones. Cyfres y Werin (Rhif 11), 1922
- Woyzeck gan Georg Buchner, cyfieithwyd gan Sarah Pogoda a Huw Jones. Melin Bapur, 2025
Casgliadau
[golygu | golygu cod]- Yr Awen Almaeneg: blodeugerdd o farddoniaeth Almaeneg o'r dechreuadau hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf detholwyd, cyfieithwyd a golygwyd gan Pennar Davies (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
Llyfryddiaeth am Lenyddiaeth Almaeneg
[golygu | golygu cod]- Sarah Kirsch, golygwyd gan Mererid Hopwood, David Basker a Rhys W. Williams, Contemporary German Writers Series (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
- Dafydd Andrews, Rhagair helaeth i'r Ymwelwyr Annisgwyl (Caerdydd: Academi Gymreig, 1980)
- Glyn Tegai Hughes, erthygl ar Franz Kafka yn Y Llenor yn Ewrop, golygwyd gan Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- T. Pugh Williams, erthygl ar Rainer Maria Rilke yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
- Idris Parry, erthygl ar Bertolt Brecht yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
- J Henry Jones, Rhagair helaeth i Barddoniaeth Rilke, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1984)
- H.M. Waidson, The Modern German Novel (OUP a Prifysgol Hull, 1959)
- Paul West, The Modern German Novel (Llundain: Hutchinson, 1963)
- Christopher Middleton (gol.), German Writing Today (Penguin, 1967)
- Beth sy'n Ailgynnau, cerdd gan Hanna Abu-Hanna, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- America, America, cerdd gan Saadi Youssef, troswyd drwy'r Saesneg, gan Khaled Mattawa a Dafydd Iwan, Taliesin 130 (Gwanwyn 2007)

- Yfory wna i ddim Colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 133 (Gwanwyn 2008)
- Marbly y Tadcu ("Aitonaren kanikak" o'r llyfr Zu bezain ahul, 2007) gan Karmele Jaio cyfieithwyd yn ddwyieithog (cymraeg a llydaweg) gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 55 (Awst 2010), tud. 13–20
- Disneyland Paris (Zu bezain ahul, 2007) gan Karmele Jaio cyfieithwyd yn ddwyieithog (cymraeg a llydaweg) gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 53 (Awst 2010), tud. 20–25
- Breuddwydion yn y Gogledd (Huñvreioù en hanternoz skornet, Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 49 (Awst 2008), tud. 31
- Dirgelion y Swyddfa (Kevrinoù ar Burev), stori fer gan Patxi Zubizarreta cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 36 (Awst 2007), tud. 31
- Dau Asyn (Daou Azen, Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 42 (Ionawr 2006), tud. 25
- Esgidiau Rhad (Botou Marc'had Mad, Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 43 (Mai 2006), tud. 24
- Y Fendith (Ar Benediste, Aitaren eta …), stori fer gan Pernando Amezketarra, 2001 cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 41 (Awst 2005), tud. 24
- Ethygl dwyieithog am Patxi Zubizarreta, Llydaweg/Cymraeg, gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhif 44 (Awst 2006), tud. 16
- Pan mae'r Neidr …, stori fer gan Bernardo Atxaga cyfieithwyd gan Aelwyn Williams, Taliesin 104 (Ionawr 1999)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ned Thomas, "Porthi'r Pum Mil", golwg ar waith Bernardo Atxaga yn cynnwys cerdd a gyfieithwyd, Taliesin 131 (Haf 2007)
- Cyril P. Cule, Cymro ar Grwydr (Gwasg Gomer, 1941), sy'n cynnwys erthyglau helaeth ar y Basgiaid adeg Rhyfel Cartref Sbaen ac ymateb y Cymry.
- Helen Eirlys Jones, "Yr Awdur yng Ngwlad y Basg", Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Cyn y Wawr (Abans de l'Alba 1954) gan Lluis Ferran de Pol cyfieithwyd gan Victor John ac Esyllt T. Lawrence (Gwasg Gomer, 1994)
- Llaw Fersil, cerdd gan Francesc Parcerisas, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- Paul W. Birt, Cerddi Alltudiaeth: Thema yn llenyddiaethau Quebec, Catalunya a Chymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- Stori Go Iawn Karl Marx (El Capital de Karl Marx), gan Joan R. Riera (Awdur) a Liliana Fortuny (Arlunydd). Cyfieithydd: Sioned Haf. (Gair Rhydd, 2015)
- Ceir ac Anfeiliaid (Biler og dyr Biler og dyr 2000) gan Helle Helle, wedi'i gyfiethu o'r Daneg gan Richard Crowe, (Melin Bapur 2025)
- Dychweledigion (Gengangere) gan Henrik Ibsen wedi'i gyfiethau o'r Daneg gan Thomas Gwynn Jones (Cyfres y Werin) 1920
- Dwyfol gan Dante: Annwn, Purdan, Paradwys (La Divina Commedia) gan Dante Alighieri, cyfieithwyd gan Daniel Rees (Swyddfa'r Herald, 1903). Ail-gyhoeddwyd Hydref 2022 gan Legare Street Press, ISBN: 978-1017797565
- Detholion o'r Decameron (Decamerone) gan Giovanni Boccacio, cyfieithwyd gan T. Gwynfor Griffith (Gwasg Prifysgol Cymru, 1951)
- Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur (Sei personaggi in cerca d'autore, 1921) gan Luigi Pirandello, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan (Llys yr Eisteddfod, 1981)
- Y Goedwig ar y Draffordd (Il bosco sull'autostrada) gan Italo Calvino, cyfieithwyd gan John Mathias, J. R. Woodhouse, yn Storïau Tramor 2, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Monotonia, cerdd o 1916 gan Giuseppe Ungaretti, cyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin 37 (Rhagfyr 1978)
- Pwy sydd Angen Barddoniaeth?, sef addasiad Aneirin Karadog o gerdd gan Jurgen Rooste, Taliesin135 (Gaeaf 2008)
- Gwraig o Flodau, sef cyfieithiad Elin ap Hywel o gerdd Kuldnainegan Kristiina Ehin, Taliesin 135 (Gaeaf 2008)
- Drymiau Tawelwch, cyfieithiad Alan Llwyd o waith Kristiina Ehin (2009)
- Storïau o'r Ffinneg, golygydd a chyfieithydd Niclas L. Walker (Gwasg Gomer, 1979)
Fflemeg ac Iseldireg
[golygu | golygu cod]- Llydaw am Byth (Breiz Atao 1964) gan Valere Depauw yn yr iaith Fflemeg "Vlaams", cyfieithwyd (o deipysgrif Ffrangeg) gan John Edwards. (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1969)
- Dyddiadur Belsen gan Renate Laquer 1946 yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandybie: Gwasg Christopher Davies, 1973)
- Fy Ffrind oedd Wrwg ( Oeroeg 1948) gan Hella Serafia Haase yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Gwasg Gomer, 1968)
- Y Ffynhonnell Gudd (De verborgen bron – 1950) gan Hella Serafia Haase yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandysul: J. D. Lewis, 1970)
- Dail Surion (Het bittere kruid - 1957) gan Marga Minco yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Llandybie: C. Davies, 1972)
- Pentre fy Mam (Het Drop Van Mijn Moeder - 1959) gan Marga Minco yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Gomer: Storiau Tramor, gol Harri Pritchard Jones, 1974)
- Galarnad Annes (Klaaglied om Agnes - 1951) gan Marnix Gijsen, cyfieithwyd gan Elin Garlick (Abertawe: Gwasg Christopher Davies, 1979)
- Edau yn y Tywyllwch drama deledu gan ? 19xx yn yr iaith Iseldireg, cyfieithwyd gan Elin Garlick. BBC Cymru, 19xx.
- Y Wraig sy'n Llosgi stori fer gan Frank Roger, cyfieithwyd gan Catrin Gilkes, Taliesin cyf. 128 (Haf 2006)

- Prif erthygl: Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg.
Mae Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yn adlewyrchu y traddodiad hir o drosi o'r prif ieithoedd ewropeaidd i'r Gymraeg gan osgoi fersiynau Saesneg. Roedd Ffrainc Addoliaeth Saunders Lewis yn enwog. Ffrangeg oedd prif iaith athroniaeth, gwleidyddiaeth a ffasiwn am ganrifoedd, tan i Saesneg ei disodli yn ail haner yr 20g. Yn y brif erthygl ceir rhestr o'r deunydd sydd ar gael yn y Gymraeg.
- Un gerdd yn y gasgliad Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Storïau o'r Gaeleg …, torïau byrion "Burn is Aran" gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Donald Gwyon Howells (Gwasg John Penri, 1970)
- Awen y Gael, blodeugerdd & farddoniaeth Aeleg o'r 15g hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfieithwyd gan John Stoddart. Caernarfon: Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
- Cerddi Gaeleg Cyfoes (1937–82), cyfieithwyd gan John Stoddart, Cyfres Barddoniaeth y Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
- "Ein Hiaith a'n Brethyn", cerdd "Ar Cànan 's ar Clò" gan Anna Frater. Cyfieithiad gan Cennard Davies, Taliesin 128 (Haf 2006)
- "Murchadh …" stori fer gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Mary Scammell, Taliesin 104 (Ionawr 1999)
- Storïau Byrion (Scribhinni 1919) gan Padraig Pearse, cyfieithwyd gan Gwynn ap Gwilym (Llyfrau'r Faner, 1980)
- Y Peint (An Pionta), Gwybod (Fios), cyfieithwyd gan Trefor P. Owen. Nodiadau ar, a straeon byrion gan, Máirtín Ó Cadhain, yn Storïau Tramor 2, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Awen y Gwyddyl: detholiad o chyfieithiadau gan T. Gwynn Jones, Cyfres y Werin, rhif 9 (Caerdydd: Cwmni Cyhoeddi Addysgol, 1923)
- Ystoriau Byr o'r Wyddeleg gan Pádraic Ó Conaire (1882-1928) Cyfieithwyr Tomás Ó Cléirigh a David Myrddin Lloyd; Gwasg Gomer, Llandysul, 1934.
- Storïau ac Ysgrifau gan Pádraic Ó Conaire, Trosiadau o'r Wyddeleg gan J. E. Caerwyn Williams (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1949)
- Ysgrifennu ar gyfer neb, Gabriel Rosenstock, darlith ar Lenyddiaith Gwyddeleg heddiw, troswyd gan Menna Cravos, Taliesin 130 (Gwanwyn 2007)
- Pannwr Saffrwm a ysgogwyd gan Pangur Ban cerdd o'r 9ed ganrif, ysgrifennwyd gan Mary Scammell, Taliesin 135 (Gaeaf 2008)
- Aistriuchain (Cyfieithiadau) cerdd gan Gearoid Mac Lachlain, cyfieithiad gan Aled Llion a Mererid Puw Davies, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Galarnad. Cyfieithiad gan Mererid Puw Davies o gerdd Wyddeleg gan Cathal Ó Searcaidh, Taliesin127 (Gwanwyn 2006)
Groeg (Groeg Diweddar)
[golygu | golygu cod]- Monotonia (Μονοτονία) cerdd o 1908 gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin cyf. 37 (Rhagfyr 1978)
- Erthygl helaeth a cherddi gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin 32 (Gorffennaf 1978)
Groeg (Groeg Clasurol)
[golygu | golygu cod]- Oidipos Frenin, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen, Cyfres Y Drama yn Ewrop (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972)
- Oidipos yn Colonos, un o'r Tri Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) cyfieithiad Euros Bowen, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1979)
- Antigone, cyfieithiad W. J. Gruffydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)
- Bacchai gan Ewripides, cyfaddasiad Gareth Miles (1991)
- Blodau o Hen Ardd cyfieithiadau gan T. Gwynn Jones o epigramau Groeg a Lladin (Hughes a'i Fab, 1927)
- Moeseg Nicomachaidd Aristoteles - Cyfieithiad o L'Éthique a Nicomaque gan Aristoteles, Addaswyd/Cyfieithwyd gan John FitzGerald (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
- Iliad - Cyfieithiad (addasiad radio) gan Homer, Addaswyd/Cyfieithwyd o'r fersiwn Saesneg gan Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer, 1976)
- Cerddi Groeg Clasurol cyfieithiad gan J. Henry Jones o'r darn am Danaë (Caerdydd, 1989), gol. gan John Gwyn Griffith.
- Iffigenia yn Awlis cyfaddasiad o Yr Oresteia gan Aischolos gan Gareth Miles 2005
- Atgofion Haganah (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1972)
- Hanes Teulu fy Nhad gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin, Taliesin 29 (Rhagfyr 1974), tud. 36–46
- Cael y Llun yn Iawn, cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
- "Does dim blodau i'r senorita", stori fer gan Iotam Rewfeni, cyfieithwyd gan Richard Crowe ac Amnon Shapiro, Tu Chwith cyf. 2 (Haf 1994)
- Gemau Hwngari (straeon gan deg awdur Hwngareg cyfieithwyd gan Tamas Kabdebo a Glyn M. Ashton (Gwasg Gee, tua 1965 [dim dyddiad ar y llyfr]). Mae rhagair helaeth ar hanes Lên Fagyareg (Hwngareg)
- Ust! Gwylia!, cerdd gan Endre Gyárfás o'r Hwngareg cyfieithwyd gan Harri Pritchard Jones, Taliesin 51 (Ebrill 1985)
- Tân mewn Tai (Eldur i Husum), cerdd gan Sigurður Pálsson wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
- Y Brodyr (Adelphi, tua 170CC) drama gan P. Terentius Afer cyfieithiad gan Arthur O. Morris, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
- Bugeilgerddi Fyrsil cyfieithiad gan Euros Bowen (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Alltud, stori fer gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 86 (Haf 1994), tud. 78–104
- Lila. stori fer gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 91 (Hydref 1995), tud. 29–38
- Blaenau Ffestiniog 1993–1997 Annaig Renault, rhan o Dyddiadur Taith, a droswyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
- Dwy Gerdd o'r Barzaz Breiz, eu cefndir a'u nodweddion arwrol, gol. R Geraint Gruffydd, Bardos (1982), tud. 155-179
- Prynhawnddydd (Abardaez), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Pen ar Bed (Pen Draw'r Byd), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
- Diwrnod Gwlyb (Un devezh glav), Diwedd y Dydd (Dibenn an deiz), Gwraig Fach Fitw (Ur vaouez vihan gwenn he blev), straeon byrion gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Storïau Tramor VIII, gol. Rita Williams (Gwasg Gomer, 1979)
- Llygedyn o Haul (Ur bann-heol), Bywyd (Ar vuhez), Tawelwch y Nos (Sioulder an noz), straeon byrion gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Y Traethodydd (Gorffennaf 1984)
- I Arall Fyd (En tu all d'an Douar ha d'an Neñv. 1993) gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks (Llanrwst: Carreg Gwalch, 1997)
- Morforwyn (Llydaweg: Mari Vorgan) gan Roparz Hemon, trosiad i'r Gymraeg gan Rita Williams. Canolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth 1995. ISBN 9781856449441
- Y Meistr (Ar Mestr) drama a cherddi gan Naïg Rozmor cyfieithwyd gan Rita Williams Emgleo Breiz, Liogan (Llydaw) (Rhagfyr 2000)
- Angerdd Angheuol, tair stori fer gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Jenny Pye a Gwenno Sven-Meyer (Aberystwyth: Prifysgol Cymru, 2004)
- Lleidr Plentyndod ("Aet o Yaouankiz gant al Laer" o'r cyfrol Warc'hoazh e tarzho c'hoazh an deiz, 2006) gan Per Denez, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Breizh-Llydaw rhifyn 51 a 52 (2009)
- Diawl yn y tŷ gan Jakez Riou, cyfieithwyd gan J. E. Caerwyn Williams (Gwasg Gee, 1972)
- Du a Gwyn (Gwenn ha Du). cerddi cyfoes o Lydaw gan wahaonol Feirdd yn cynnwys Anjela Duval, Glenmor, a Roparz Hemon, cyfieithwyd gan Mikael Madeg, a Dewi Morris Jones (Aberystwyth: Prifysgol Cymru, 2004)
- Kaurentina, Brenhines ei Galon (Rouanez e Galon), Menyw Dda (Ur Vaouez Vat) cyfieithwyd gan Rita Williams. Nodiadau ar, a straeon byrion gan, Roparz Hemon, yn Storïau Tramor II, gol. Bobi Jones (Gwasg Gomer, 1975)
- Cyfieithiadau o'r Llydaweg yn y cylchgrawn Newyddion Llydaw Keleier Breizh ers 2005 o dan yr enw Breizh-Llydaw
- Ar Baganiz (Y Dryllwyr) gan Tangi Malmanche; cyfieithydd Gwyn Griffiths yn Dramâu o’r Llydaweg (Christopher Davies, 1982)
- Intanvez Arzhur (Y Weddw) gan Tangi Malmanche; cyfieithydd Gwyn Griffiths yn Dramâu o’r Llydaweg (Christopher Davies, 1982)
- Helynt y Pibydd, a chwedlau eraill. Wedi eu trosi o'r Llydaweg gan Geraint Dyfnallt Owen Gwasg Aberystwyth, 1932
- Straeon o'r Llydaweg (wedi ei trosi i Gymraeg) gan Geraint Dyfnallt Owen London : Gwasg Gymraeg Foyle, [1945]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Annaig Renault, Women Writers in Breton (The Celtic Pen 1:2, 1993)
- Rhisiart Hincks, I Gadw Mamiaith Mor Hen; Cyflwyniad i ddechreuadau ysgolheictod Llydaweg (Gwasg Gomer, 1995)
- Gwyn Griffiths, Llydaw: ei llen a'i llwybrau (Gwasg Gomer, 2000) (teithlyfr gyda sylwadau ar lên Llydaw)
- Gwyn Griffiths a Jacqueline Gibson, The Turn of the Ermine - An Anthology of Breton Literature dros 500 tudalen y rhan fwyaf yn ddarnau Llydaweg a chyfieithiad Saesneg (Francis Bootle, 2006)
- Cyfweliad â Llenor Llydaweg: Mikel Madeg, Taliesin 115 (Haf 2002)
- Rita Williams, Ronan Huon 1922–2003, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
- Jacqueline Gibson, Per Denez 1921–2011, Barn rhif 585 (Hydref 2011)
- Heather Williams, Diffinio dwy lenyddiaeth Llydawv, Tu Chwith 12 (1999), tud. 51–6
- Heather Williams, Diffinio Llydaw, Y Traethodydd 157 (2002), tud. 197–208
- Heather Williams, Ar drywydd Celtigrwydd: Auguste Brizeux, Y Traethodydd 156 (2006), tud. 34–50
- Heather Williams, Chwedlau ac arferion marwolaeth Llydaw, Llên Cymru 34 (2011), tud. 216–25
Norn neu Shetlandeg
[golygu | golygu cod]- Atlantis. cerdd gan Robert Alan Jamieson, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007). Eithaf tebyg bod Shetlandeg "Sgoteg" yw hyn yn lle'r Norn go iawn.
- Hedda Gabler (drama o 1890) gan Henrik Ibsen. cyfieithwyd gan Tom Parry ac R. H. Jones (Bangor, Cymdeithas Ddrama Gymraeg, 1930)
- Rhywun wrth y Drws (Bygmaster Solness), drama gan Henrik Ibsen. Cyfieithiad gan John Lasarus Williams (hefyd y cyhoeddwr) 2004
- Y Ffaith nad yw'r Adar yn Canu (At Fyglene Ikke Singer), cerdd gan Jan Erik Vold wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
- Po gyflymaf y cerddaf, lleiaf yr af gan Kjersti Annesdatter Skomsvold, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 141 (Haf 2010)
- "Merch fy Nhad" gan Mareike Krügel, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 140 (Haf 2010)
- Rubaiyat Omar Khayyam, trosiad gan John Morris-Jones, 1928, Gwasg Gregynog
- Bannau Llên Pwyl (casgliad o gerddi a rhyddiaeth), cyfieithwyd gan T Hudson Williams (Gwasg Aberystwyth, 1953)
- Storïau Byr o'r Bwyleg, trosiad gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1974), yn cynnwys storïau Gwyliwr y Goleudy (Latarnik) a Ianco'r Cerddor (Janko Muzykant) gan Henryk Sienkiewicz (camenwyd a chamsillafwyd "Bolestaw Pruss" fel awdur Gwyliwr y Goleudy yn y gyfrol) ac Y Wasgod (Kamizelka) a Y Dychweledig Don (Powracająca fala) gan Bolesław Prus.
- Lludw a Diemwnt (Popiół i diament) gan Jerzy Andrzejewski, addasiad gan John Elwyn Jones (Gwasg Gomer Press, 1976)
- Beirniadaeth ar Lludw a Diemwnt gan John Rowlands, Taliesin cyf. 32 (Gorffennaf 1976)
- Detholiad o'i Gerddi gan Zbigniew Herbert, trosiad gan John Elwyn Jones, Gwyn Thomas a Nesta Wyn Jones, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1985)
- Nostra Vita, cerdd gan Tadeusz Pióro, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin cyf. 131 (Haf 2007)
- Oenig (Miorista) hen faled draddodiadol. Cyfieithiad gan Gerald Morgan, Taliesin cyf. 76 (Mawrth 1992), tud. 25–29
- Y blaidd hud a chwedlau er aill; wedi eu trosi o'r Rwmaneg.
gan Geraint Dyfnallt Owen [Aberystwyth] Gwasg Aberystwyth, 1949
- Un Diwrnod Ifan Denisofitsh (Один день Ивана Денисовича Odin den' Ivana Denisovicha, 1962) gan Alecsandr Solzhenitsyn,(Алекса́ндр Иса́евич Солжени́цын) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres yr Academi 5 (Academi Gymreig, 1977)
- Gwylan (Tshaica Чайка 1896) gan Anton Tshechof, cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres Y Ddrama yn Ewrop (Gwasg Prifysgol Cymru, 1970)
- Ffarwel Gwlsari (Прощай, Гульсары", 1966) gan Tshingiz Aitmatof, (Чингиз Торекулович Айтматов) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones (Llyfrau'r Dryw, 1971)
- Storïau Tramor IV (yn cynnwys straeon gan Tshechof) gan Anton Tshechof, (Антон Павлович Чехов) cyfieithwyd gan W. Gareth Jones (Gwasg Gomer, 1977)
- Y Gelli Geirios (Вишнёвый сад, 1904) gan Anton Tshechof (Антон Павлович Чехов), cyfieithwyd gan W. Gareth Jones, Cyfres Dramâu Aberystwyth (CAA, 1993)
- Anfarwol werin: nofel yn ymdrin a helyntion Rwsia yn 1941 gan Fasili Grossman wedi ei chyfieithu o'r Rwseg gan T. Hudson-Williams (Gwasg Aberystwyth, 1945)
- Merch y capten – (Capitanskaa dochka -Капитанская дочка 1836) gan Alecsander Pwshchin; cyf. T. Hudson Williams; Y Clwb Llyfrau Cymreig 1947
- Y Cylch, stori fer gan Fyodor Sologub (Фёдор Сологу́б), cyfieithwyd gan Anhysbys, Taleisin cyf. 3 (Rhagfyr 1978)
- Cerdd i Tsiecoslofacia. cerdd gan Marina Ivanovna Tsvetaeva (Rwseg: Мари́на Ива́новна Цвета́ева, troswyd drwy'r Saesneg, gan Elaine Feinstein a Dafydd Iwan, Taliesin cyf. 130 (Gwanwyn 2007)
- Y Feipen Enfawr gan Aleksei Tolstoy, cyfieithu gan Elin Meek, Cyhoeddwr: Llyfrau Barefoot Cymru 2006
- Calon Ci" Bwlgacof 1925, chyfieithwyd gan Gareth Miles 1994 - heb ei gyhoeddi eto
- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (Tri awdur), cyfieithwyd gan T Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964
- Yr Arth (Медвдь 1888) gan Anton Tshechof Антон Павлович Чехов
- Yr Hen Ddiod 'na eto gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й)
- Y Marchogion (Medny vsadnik Медный всадник 1833) gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)
- Don Juan gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)
- Yr Archwiliwr (Ревизор, 1836) gan Nicolai Gogol, cyfieithwyd gan Llewelyn G Chambers (Gwasg Y Bwthyn, 2007)
- Arolygydd y Llywodraeth (Ревизор, 1836) gan Nicolai Gogol, cyfieithwyd gan Siôn Eirian (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 2006)
- Plentyndod (Detstvo Детство, 1852) gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й) cyfieithwyd gan Rhian Warburton, Cyfres yr Academi (1997)
- Cosaciaid (Kazaki Казаки, 1863) gan Leo Nicolaiefitsh Tolstoi (Лев Никола́евич Толсто́й) cyfieithwyd gan Caryl Davies, Cyfres yr Academi (1997)
- Ar y Trothwy (Nacanwne Накануне, 1860) gan Ifan Sergeiefitsh Twrgenef (Иван Сергеевич Тургенев) cyfieithwyd gan Dilwyn Ellis Hughes, Cyfres yr Academi (1983)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eliot, Pwshcin, Poe (1948), astudiaeth gan Aneirin Talfan Davies (Llandebie: Llyfrau'r Dryw, 1948)
- Prif erthygl: Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Mae cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn draddodiad hen gan y Cymry. Taith y Pererin hyd at nofelau Harry Potter mae'r Saesneg yn sicr yw prif iaith 'trosi' i'r Gymraeg. Yn y blynyddau diwethaf mae Gweithdai cyfieithu barddoniaith o un iaith leiafrifol i'r llall yn digwydd drwy un o'r ieithoedd dominyddol ond y Saesneg yn bennaf.
- Anturiaethau Don Cwicsot [llyfr a lluniau] gan Miguel de Cervantes Saavedra, 1547–1616, wedi eu trosi ac addasu gan J. T. Jones (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1954) (yn ôl ei ragair)
- "Y Gosb Ddiddial" (drama) gan Lope de Vega, chyfieithwyd gan Gareth Miles, Barn cyf. 359 (Rhagfyr 1992)
- Lazarillo de Tormes: ei helyntion a'i brofedigaethau. Nofel wedi'i chyfieithu o'r Sbaeneg gan P. A. L. Jones (Gwasg Gomer, 1970)
- Trafalgar gan Galdos, Benito Perez. Troswyd gan Cyril P. Cule (Caerdydd: Yr Academi Gymreig, 1980)
- Priodas waed (Bodas de sangre) gan Federico García Lorca, 1898–1936, cyfieithiad gan R. Bryn Williams a John Rowlands.
- Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans, Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- Bannau Macchu Picchu, 1944, (Alturas de Macchu Picchu) gan Pablo Neruda, cyfieithiad gan Harri Webb, Barn cyf. 230 (Mawrth 1982)
- Platero a minnau (Platero y Yo – 1914) gan J. R. Jiménez, trosiad Cymraeg gan T. Ifor Rees gydag E. T. Griffiths, 1961
- Tomatos. Cerdd gan Pablo Neruda, y cyfieithu gan Ifor ap Glyn, Tu Chwith, cyf. 2 (Haf 1994)
Yr Ariannin
[golygu | golygu cod]- Yn y Cysgod, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 101 (Gwanwyn 1998)
- Y Froets Amethyst, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 100 (Gwanwyn 1997)
- Etta, stori fer gan Virgilio González, cyfieithiad gan Cathryn Williams, Taliesin cyf. 99 (Hydref 1997)
- Gwreiddiau (Raices), cerdd gan Arie Lloyd de Lewis, cyfieithiad gan Gareth Miles, Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- El Riflero de Ffos Halen (Y Gaucho o Ffos Halen) gan Carlos D. Ferrari, cyfieithu gan Gareth Miles, Taliesin cyf. 124 (Gwanwyn 2005)
Llyfryddiaeth Fer
[golygu | golygu cod]- Cymro Cyfandir y De; adolygiad gan Robyn Lewis ar El Riflero de Ffos Halen (Y Gaucho o Ffos Halen), Taliesin cyf. 124 (Gwanwyn 2005)
- Croesi Ffiniau Diwylliannol Walter A. Brooks a Geraldine Lublin adroddiad ar gynhadledd cyntaf ar Gymry Patagonia Primer Foro Internacional sobre los Galeses en la Patagonia, Taliesin cyf. 125 (Haf 2005)
- Erthygl am Federico García Lorca yn Y Llenor yn Ewrop gol. Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
- Cyril P. Cule, "Sbaen adeg ei Rhyfel Gartref", yn Cymro ar Grwydr (Gwasg Gomer, 1941)
- Gareth Miles, Pablo Neruda; Prifardd De America, Taliesin cyf. 132 (Gaeaf 2007)
- Cyril P. Cule, "Barddoniaeth werinol Sbaen", Y Fflam rhifyn cyf. 1, rh. 1 (Nadolig 1946), tud. 24–28
- Rhagair helaeth i 'Y ffynnon sy'n ffrydio': blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
- Tair Cerdd gan Ranka Kuic, cyfieithiad gan Gwyn Thomas, Taliesin cyf. 69 (Mawrth 1990)
- Crwydryn yn yr Oes Atomig gan Matej Bor, cyfieithwyd gan Gwyn Erfyl, Taliesin cyf. 29 (Rhagfyr 1974), tud. 47–55
- Hetiau gan Barbara Pogačnik, cyfieithiad o'r Slofeneg gan Damien Walford Davies, Taliesin cyf. 140 (Haf 2010)
- Dewin Ym Mwmin-Gwm gan Tove Jansson (Y Dref Wen, 1975)
- Miss Julie gan August Strindberg, cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)
Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd 500cc – 1981) cyfieithwyd gan Cedric Maby, Yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Sioned Puw Rowlands, "Y We a Hyrwyddo Llenyddiaeth Cymru Tramor", Taliesin cyf. 111 (Gwanwyn 2001)
- Aled Llion a Mererid Puw Davies, "Adroddiad o Weithdy Cyfieithu Barddoniaeth", Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
- Angharad Price, "Cyfoeth Cyfieithu", Taliesin cyf. 100 (Gaeaf 1997), tud. 10–38
- Cronfa Cyfieithiadau i'r Gymraeg ar wefan Y Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . https://www.porth.ac.uk/cyfieithiadau/?teitl=Storïau%20Tramor%20II[dolen farw]