Neidio i'r cynnwys

Egalitariaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cydraddoldeb)
Egalitariaeth
Symbol E a ddefnyddir i gynrychioli credo egalitaraidd.
Enghraifft o:ideoleg wleidyddol, carfan meddwl Edit this on Wikidata
Dynodwyr
QuoraEgalitarianism edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Athrawiaeth gymdeithasegol neu ysgol feddwl yn athroniaeth wleidyddol yw egalitariaeth[1][2] neu gydraddoliaeth[2] sy'n gosod cydraddoldeb yn nod ar gyfer cyfundrefn cymdeithas. Gallai gymhwyso cydraddoldeb o ran amodau cymdeithasol, canlyniadau economaidd, gwobrwyon, neu freintiau.[3] Er enghraifft, yn achos symudedd cymdeithasol, nod egalitariaeth yw sicrhau'r cyfle i bob unigolyn allu gwella ei statws economaidd-gymdeithasol, neu i'r unigolyn ennill ei le yn y gymdeithas o ganlyniad i'w ddoniau, y drefn a elwir meritocratiaeth. Yn gyffredinol, mae egalitariaeth yn un o daliadau'r adain chwith, ac yn nodwedd bwysig o ideolegau sosialaidd megis democratiaeth gymdeithasol, comiwnyddiaeth, a Marcsiaeth. Cofleddir dealltwriaethau amgen o egalitariaeth gan safbwyntiau eraill ar y sbectrwm gwleidyddol. Mae rhyddfrydwyr ac unigolwyr yn tueddu i ddadlau dros gyfleoedd cyfartal i bawb, ond nid o reidrwydd yn gwneud iawn am annhegwch drwy achos genedigaeth, megis cyfoeth teuluol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "egalitariaeth", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2026.
  2. 1 2 Geiriadur yr Academi, "egalitarianism".
  3. (Saesneg) "Egalitarianism" yn A Dictionary of Sociology (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998). Adalwyd ar 12 Awst 2019.