Cydbwysedd braw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Term rhethregol yw cydbwysedd braw sy'n disgrifio sefyllfa o gydbwysedd grym neu gyd-ataliaeth rhwng pwerau niwclear, yn seiliedig ar y ffaith bod y naill ochr yn meddu ar arfau a allai ddinistrio'r llall. Ystyr wreiddiol y term, a'i brif ddefnydd o hyd, oedd y drefn ryngwladol a fodolai yn y Rhyfel Oer (1946–91), pan gafodd Ewrop ei rhannu yn feysydd dylanwad y ddau uwchbwer: gwledydd cyfalafol y gorllewin, aelodau NATO, dan ddylanwad Unol Daleithiau America; a gwledydd comiwnyddol y dwyrain, aelodau Cytundeb Warsaw, dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd. Yn ôl y ddamcaniaeth ataliaeth niwclear, byddai'r bygythiad o ddifodiant llwyr yn sicrhau na fyddai'r naill ochr yn dechrau rhyfel niwclear yn erbyn y llall.[1]

Mae'n debyg i'r ymadrodd gael ei fathu gan Lester B. Pearson, Gweinidog Tramor Canada, wrth nodi 10 mlynedd ers arwyddo Siarter y Cenhedloedd Unedig. Meddai Pearson mewn araith yn San Francisco ar 24 Mehefin 1955, "The balance of terror has succeeded the balance of power".[2] Adlewyrchodd sylwad gan Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn ei araith fawr olaf i Dŷ'r Cyffredin ar 1 Mawrth 1955: "Then it may well be that we shall by a process of sublime irony have reached a stage in this story where safety will be the sturdy child of terror, and survival the twin brother of annihilation."[3] Defnyddiwyd yn ddiweddarach gan John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei araith agoriadol ar 20 Ionawr 1961 wrth ddisgrifio cysylltiadau rhwng ei wlad a'r Undeb Sofietaidd: "both sides overburdened by the cost of modern weapons, both rightly alarmed by the steady spread of the deadly atom, yet both racing to alter that uncertain balance of terror that stays the hand of mankind's final war".[4]

Nodai'r sefyllfa ddeubegwn yn y Rhyfel Oer gan ras arfau niwclear rhwng y ddwy ochr. Cafodd y syniadaeth y tu ôl i'r strategaeth hon ei galw'n "Cyd-ddinistr Sicr": yn ôl ei chefnogwyr, buasai ataliaeth niwclear yn atal y ddwy ochr rhag mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Yn ôl ei gwrthwynebwyr, system hynod o danllyd oedd hyn a oedd yn agos iawn at achosi rhyfel niwclear a dinistr ar raddfa eang. Ni frwydrodd yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn uniongyrchol yn erbyn ei gilydd, er iddynt gefnogi ochrau gwrthwynebol mewn "rhyfeloedd trwy ddirprwy" a rhyfeloedd cyfyngedig megis Rhyfel Fietnam. Yn y diwedd, cwympodd yr Undeb Sofietaidd heb i'r un ochr ollwng bom atomig ar yr ochr arall.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Albert Wohlstetter, The Delicate Balance of Terror (RAND Corporation, 1958). Adalwyd ar 10 Mai 2019.
  2. A. J. C. Edwards, Nuclear Weapons, the Balance of Terror, the Quest for Peace (Llundain: Palgrave Macmillan, 1986), t. 238n.
  3. (Saesneg) "Defence" (1 Mawrth 1955). Adalwyd ar wefan Hansard ar 10 Mai 2019.
  4. (Saesneg) "Inaugural Address" (20 Ionawr 1961). Adalwyd ar wefan Llyfrgell ac Amgueddfa Arlywyddol John F. Kennedy ar 10 Mai 2019.