Cwtiad y traeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cwtiad y Traeth)
Jump to navigation Jump to search
Cwtiad y traeth
Oedolyn mewn plu haf yn Fflorida
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Arenaria
Rhywogaeth: A. interpres
Enw deuenwol
Arenaria interpres
(Linnaeus, 1758)

Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw cwtiad y traeth (Arenaria interpres). Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America.[1] Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.[2]

Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g.[2] Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.

Oedolyn mewn plu gaeaf yn Helgoland, yr Almaen

.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rosair, David & David Cottridge (1995) Hamlyn Photographic Guide to the Waders of the World, Hamlyn, Llundain.
  2. 2.0 2.1 D. W. Snow a C. M. Perrins, The Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 1 (Rhydychen: Oxford University Press, 1998)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.