Cwrw mwg

Oddi ar Wicipedia
Poteli o gwrw mwg

Math o gwrw a fregir gan ddefnyddio haidd brag wedi ei sychu un ai dros dân agored neu mewn popty yw cwrw mwg (Almaeneg: Rauchbier). Fel yr awgrymir gan ei enw, mae iddo flas myglyd unigryw.

Yn y 18g daeth sychu brag y tu fewn i odyn yn fwyfwy cyffredin, ac erbyn canol y 19eg ganrif, prin y defnyddid unrhyw ddull arall i sychu brag. Mae'r dull hwn yn sianelu'r mwg i ffwrdd o'r brag llaith ac felly nid yw'r brag yn dwyn blas myglyd. O'r herwydd, daeth yn anoddach dod o hyd i gwrw mwg tan iddo bron mynd yn anghof yn y diwydiant bragu. Serch hynny, yn ddiweddar mae'r math hwn o gwrw wedi ennill poblogrwydd, ynghyd â nifer o eraill, llai cyffredin, o gwrw.

Eginyn erthygl sydd uchod am gwrw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.