Cwmwl stratosfferig pegynol
Gwedd
| Math | cwmwl |
|---|---|
| Dynodwyr | |
Mae cwmwl stratosfferig pegynol yn fath o gwmwl sy'n ffurfio yn y stratosffer uwch Pegwn y Gogledd neu Begwn y De yn ystod y gaeaf. Ffurfiant ar uchderau o 15,000 i 25,000 m (49,000 i 82,000 troedfedd) yng nghysgod . Fe'u gwelir orau yn ystod y cyfnos, pan fydd yr Haul rhwng 1° a 6° islaw'r gorwel, yn y gaeaf ac yn agosach at y pegynau.[1]

Mae dau brif fath:
- Math I: Cwmwl sy'n cynnwys diferion dŵr tra-oeredig ac asid nitrig. Mae'r math hwn yn chwarae rhan yn ffurfiant tyllau yn yr haen osôn.[2]
- Math II: Cwmwl sydd ond yn cynnwys crisialau iâ. Nid yw hwn yn niweidiol. Gelwir y math hwn hefyd yn gwmwl symudliw (Saesneg: nacreous cloud, o nacre sef cregynem neu fammaeth y perl, gan gyfeirio at ymddangosiad amryliw y cwmwl).
Ymddangosiad
[golygu | golygu cod]Wedi iddi fachlud, mae'r haul islaw'r gorwel yn parhau i oleuo'r diferion dŵr a iâ yn y cymylau stratosfferig. O'r ddaear, ymddengys hyn fel parthau symudliw coch a glas.[3]
Yn Rhagfyr 2023 cafwyd cyfle prin iawn i weld cymylau symudliw uwch ben Brychdyn yn Sir y Fflint.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffagl yr arth (awrora), sy'n debyg yn weledol ond sydd yn ffenomenon cwbl wahanol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Polar stratospheric clouds / Observations". Australian Antarctic Division. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 June 2011.
- ↑ "Why is the ozone hole over Antarctica?". EPA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-30.
- ↑ "Polar stratospheric clouds (PSCs) | Environmental Sciences | Research Starters | EBSCO Research". EBSCO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-20.
- ↑ Forgrave, Andrew (2023-12-21). "Rare 'rainbow' clouds over North Wales that people can't stop looking at". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-20.