Neidio i'r cynnwys

Hwyl a Fflag

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cwmni Theatr Hwyl a Fflag)
Hwyl a Fflag
Enghraifft o:cwmni theatr Edit this on Wikidata
Daeth i ben1994 Edit this on Wikidata
IaithCymraeg
Cysylltir gydadramâu newydd
Dechrau/Sefydlu1981 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1997
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cwmni theatr Gymraeg fu'n weithredol rhwng 1981 a 1997 oedd Hwyl a Fflag neu Cwmni Theatr Hwyl a Fflag. Roedd y cwmni wedi'i leoli ym Mangor, ac yn cynnal Gŵyl Ddrama flynyddol yn Theatr Gwynedd o 1987 gyda'r bwriad o gyflwyno gwaith newydd ac arbrofol gan ddramodwyr Cymraeg. Unodd y cwmni gyda Sgwâr Un tua 1985. Fe gollodd y cwmni eu nawdd ym 1994, a bu'n rhaid dod â'r cwmni i ben yn 1997.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y cwmni gan nifer o actorion gan gynnwys Wyn Bowen Harries a Gwen Ellis ym 1981. Yn ogystal â chyflwyno dramâu newydd yn y Gymraeg, roedd y cwmni'n cyflwyno'r pantomeim Nadolig blynyddol, wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984. Gwelwyd llwyfannu Go Fflamia! (1985/86), Jim Cro Crystyn (1986/87) a Codi Stêm (1987/88). Rhwng 1981 a 1991, cyflwynodd y cwmni 39 o gynyrchiadau prif lwyfan gan gyfanswm o 26 o awduron.[2]

Tua 1984, unodd y cwmni gyda Sgwâr Un, oedd wedi llwyfannu drama Gareth Miles, Diwedd y Saithdegau.

Dathlwyd pen-blwydd y cwmni ym 1991 yn ddeg oed gyda'r cynhyrchiad Hualau - "ein deugeinfed cynhyrchiad gan ein saithfed awdur ar hugain."[2]

"Polisi Hwyl A Fflag yw datblygu a chyflwyno'r gorau mewn ysgrifennu newydd i'r llwyfan, boed hynny ar ffurf dramâu newydd sbon neu addasiadau newydd o ddramâu sy'n bodoli eisioes. Tra'n cynnig adloniant theatrig safonol, ein nôd yw herio awduron a'r gynulleidfa i wynebu posibiliadau a problemau'r oes drwy ymdrin â phynciau cyfoes a pherthnasol."[2]

Ym 1992, penodwyd Angharad Tomos fel dramodydd preswyl cyntaf y cwmni.[3] "Gyda'r cyflwyniad heno [Tanddaearol] daw cyfle i lwyfannu drama newydd gan Awdur Preswyl cyntaf y Cwmni ac i gyhoeddi trothwy cyfnod anturus i Hwyl a Fflag," datganodd rhaglen y cynhyrchiad o ddrama Angharad Tanddaearol.

"Wedi deng mlynedd a mwy o gyflwyno dramâu newydd ac addasiadau mewn amrywiol ganolfannau led led y wlad bydd Hwyl a Fflag, wedi'r daith hon a Gŵyl Codi'r Hwyl 5, yn cymryd hoe o deithio'n genedlaethol am gyfnod er canolbwyntio ar ddatblygu cyfres o ddramâu newydd at y dyfodol. Trwy sefydlu 'Cwmni Parhaol' o artistiaid yn yr Hydref, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes, wele'r Cwmni'n mabwysiadu teitl drama Angharad ac yn mynd tan ddaear am rhai misoedd - o safbwynt cyhoeddus beth bynnag. Gwnawn hynny yn y ffydd y blodëir cynhwrf creadigol newydd o'n hadau tanddaearol fel y gallwn ail feddianu prif lwyfannau'r wlad yn 1993."[3]

Arweinwyr artistig

[golygu | golygu cod]

Nid oes manylion am unigolyn fu'n gyfrifol am yr arlwy artistig, ond mi fu'r bardd Iwan Llwyd yn 'weinyddydd' ar y cwmni, ac Elwyn Williams yng ngofal y Marchnata. Daeth Wyn Williams i ofalu am y cwmni ar gychwyn y 1990au.

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

1980au

[golygu | golygu cod]
Rhaglen y ddrama Hualau Hwyl A Fflag 1991
Rhaglen y ddrama Tanddaearol gan Angharad Tomos 1992

1990au

[golygu | golygu cod]
  • 1990
    • Gŵyl Codi Hwyl 3 (1990)[7]
      • Val (1990) gan Dyfan Roberts
      • Yma O Hyd (1990) gan Mair Tomos Ifans
      • Mountain Language gan Harold Pinter (cyfieithiad Cymraeg)
      • Serch Yw'r Teyrn (1990)
      • Cyw Haul (1990) gan Twm Miall
      • T.A.W Pia Hi gan Ifor ap Glyn
      • Sgwrs Ddwbl gan Mansel David (cyfieithad Gwen Ellis)
      • Y Papur Ar Y Pared gan Christine Watkins
      • Merch Ei Mam gan Mair Gruffydd
    • Euog Di-Euog (1990) - drama gan Maldwyn Parry

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Morgan, Sharon (2022). Actores a Mam. Y Lolfa.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Rhaglen cynhyrchiad Hwyl A Fflag o Hualau. 1991.
  3. 3.0 3.1 Rhaglen Tanddaearol cynhyrchiad Hwyl A Fflag. 1992.
  4. Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1986.
  5. Taflen hysbysebu'r sioe Go Fflamia!. 1986.
  6. Dafis, Cris (Ebrill 1989). "Hwyl yr Ŵyl ym Mangor". Barn 315.
  7. Jones, David [Dafydd] Llewelyn (Mawrth 1990). "Hwyl Efo'r Pwdin". Barn 326.
  8. Roberts, Mared Lewis (Ebrill 1991). "Codi'r Hwyl". Barn 339.
  9. "Hualau". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-11.
  10. Fôn, Dafydd (Ebrill 1992). "Gŵyl i bwy?". Barn 351.
  11. "Archif Hwyl A Fflag".