Cwmni'r Castell
Gwedd
| Enghraifft o: | cwmni cynhyrchu |
|---|---|
| Dechreuwyd | 1981 |
| Daeth i ben | 2003 |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Cynhyrchydd/wyr | Gari Williams, Glan Davies, Dilwyn Roberts |
| Dynodwyr | |
Cwmni cynhyrchu Cymraeg wedi'i leoli ym Mae Colwyn oedd Cwmni'r Castell wedi'i greu a'i weithredu gan y brodyr Gari Williams ac Elwyn Vaughan Williams, ynghyd â'r cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts a'r diddanwr Glan Davies.[1] Cynhyrchodd y cwmni rai o gyfresi cynnar mwyaf poblogaidd S4C fel y cwis Twyllo'r Teulu, y rhaglenni adloniant 'Rargian Fawr a'r cyfresi comedi Galw Gari.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Cwmni ym 1981, i ateb y galw gan S4C am gwmnïau cynhyrchu i greu rhaglenni teledu Cymraeg ar gyfer dyfodiad y sianel newydd Gymraeg ym 1982. Daeth y cwmni i ben wedi marwolaeth cynnar Gari Williams ac wedyn ei frawd Elwyn yn sydyn yn 2003.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Emyr and Elwyn Story Ep 04 (1979 - 1981)". Bayside Radio Colwyn Bay (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-12-17.