Cwm Pennant (Powys)
![]() | |
Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.82°N 3.435°W ![]() |
![]() | |
Mae Cwm Pennant (Powys) yn ddyffryn yn ymyl Llangynog ym Mhowys, ac mae Afon Tanad yn llifo trwy’r dyffryn.
Mae hanes Santes Melangell yn gysylltiedig â’r cwm. Roedd hi’n feudwyes am 15 mlynedd. Yn ôl chwedl, cuddiodd hi sgwarnog rhag cwn Brochwell Ysgrithog, Tywysog Powys, a rhoddwyd y cwm iddi i fod ei lloches. Sefydlodd hi gomuned yno, lle saif cymuned Pennant Melangell heddiw, ac mae ei chreiriau yn Eglwys Pennant Melangell.[1] Mae’r dyffryn hefyd yn gysylltiedig â chwedl Cawr Berwyn.[2]
Claddwyd y delynores, Nansi Richards ym mynwent Eglwys Sant Melangell.[3]