Cwinten

Oddi ar Wicipedia

Traddodiad priodasol yng Ngorllewin Cymru yw Cwinten neu cwintyn.[1]

Cwinten ym Mlaenycoed, 2022

Y gwinten wreiddiol[golygu | golygu cod]

Yn draddodiadol byddai postyn tua deuddeg troedfedd o hyd wedi ei sicrhau'n gadarn yn y ddaear ac ar ei ben ddarn byrrach o bren yn troi ar ei echel a'r ochor arall chwdyn llawn tywod arno.[1] Roedd marchogwyr gan gynnwys y priodfab a'i gwmni yn rhoi ergyd i'r darn o bren yn ofalus gan geisio peidio cael eu bwrw oddi ar eu ceffylau gan y cwdyn tywod.[2]

Cwinten yn dal i fyny ceir ym Mlaenycoed, 2022

Y gwinten bresennol[golygu | golygu cod]

Nid yw'r gwinten yn cael ei defnyddio yn aml nawr gan fod yr hen traddodiadau priodasol cefn gwlad yn marw allan. Ond pan mae yn cael ei ddefnyddio rhoddir rhaff wellt ar draws y lôn gan rhwystro gwesteion y priodas i fynd i'r gwasanaeth. Mae'r rhaff wedi ei ardduno gyda llysiau, dillad, blodau a rhubanau.[1] Bydd plant fel arfer yn gofyn am arian oddi wrth unrhyw un sydd eisiau pasio'r gwinten.[3] Yn ogystal, mae'n draddodiadol rhwystro'r briodferch/fab yn benodol ac os yw'r briodferch/fab yn dod o lôn fferm rhoddir pob math o rwystrau ar hyd y lôn megis coed, soffas neu ddodrefn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2022-03-09.
  2. Monger, George (2004). Marriage Customs of the World: From Henna to Honeymoons (yn Saesneg). ABC-CLIO. ISBN 978-1-57607-987-4.
  3. "The Welsh dialect of Llanymawddwy, Montgomeryshire". National Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-09.