Curiad Cariad (albwm)
Gwedd
Curiad Cariad | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Llwybr Llaethog | ||
Rhyddhawyd | Rhagfyr 2011 | |
Label | Neud nid Deud |
Albwm gan y grŵp Cymraeg Llwybr Llaethog yw Curiad Cariad. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2011 ar y label Neud nid Deud.
Ym 1986, rhyddhaodd Llwybr Llaethog eu cynnyrch cyntaf ar ffurf EP 4 trac o’r enw Dull Di-drais. 26 mlynedd yn ddiweddarach mae John Griffiths a Kevs Ford dal wrthi a daeth albwm rhif 13 y ddeuawd electro-dub arloesol i’r golwg yn Rhagfyr 2011.
Dewiswyd Curiad Cariad yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]Wedi gwrando ar Curiad Cariad, mae John a Kevs yn parhau i greu synau sydd mor ffres ag erioed.
—Ciron Gruffydd, Y Selar