Ibis du

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Crymanbig Ddu)
Ibis du
Plegadis falcinellus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Ciconiformes
Teulu: Threskiornithidae
Genws: Plegadis[*]
Rhywogaeth: Plegadis falcinellus
Enw deuenwol
Plegadis falcinellus



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Ibis du (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: ibisiaid duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Plegadis falcinellus; yr enw Saesneg arno yw Glossy ibis. Mae'n perthyn i deulu'r Ibisiaid (Lladin: Threskiornithidae) sydd yn urdd y Ciconiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru. Dyma aderyn sydd i'w gael ar draethau arfordir Cymru. Yr hen enw arno oedd y Crymanbig ddu.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. falcinellus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. ar draethau arfordir Cymru.

Ymweliadau â Chymru[golygu | golygu cod]

  • "Es i drosodd i Enlli dydd Gwener 18 Medi 2009 wrth edrych allan i'r tir mawr dros y swnt mi welais 3 aderyn tywyll yn y gwydra. Bilidowcars od meddwn - roeddent yn hedfan yn syth amdana i. Yn edrych yn rhy dennau a'r adenydd yn fflapio mewn ffordd od. Wrth i mi ddechrau amau beth oeddan nhw daeth saith arall i'r golwg ac roedd yn amlwg wedyn o weld eu siap yn well beth oeddan nhw! Wedi cyrraedd yr ynys dyma nhw yn cylchdroi a chodi yn uchel yn sydyn cyn bwrw ymlaen i'r de dros y goleudy. Crymanbig Du - record cynta i Enlli hefyd. Gwelwyd naw ohonynt rhyw deirawr yn ddiweddarch wrth Aberteifi a wedyn Trefdraeth. Roedd 12 wedi eu gweld ar aber yr Alaw ddydd Iau yn ôl y son. Mi oedd yna fewnlifiad bychan ohonynt rai wythnosau yn ôl gyda haid o 25 yn ne Cymru."[3]
  • Crymanbig ddu ger Afon Clwyd yn ardal Rhuddlan, Medi 30, 2013.[4] Mae yna fewnlifiad o’r adar trawiadol yma i Ynysoedd Prydain a Chymru wedi digwydd bron pob blwyddyn ers 2007. Y rheswm am hyn mae’n debyg yw’r cynnydd aruthrol yn y boblogaeth sy’n magu yn ne Sbaen yn Donana. Hyn yn cyd-fynd â’r cynnydd ym mhoblogaethau crëyrod eraill yn Ewrop ac sydd yn ymestyn eu tiriogaeth i’r gogledd tuag atom. Adar ifanc ydi’r rhain fel arfer yn gwasgaru yn dilyn tymor magu llwyddiannus. Eleni penderfynod y Pwyllgor adar prin Prydeinig na fyddant yn derbyn nac adolygu cofnodion o’r Crymnbig o hyn ymlaen oherwydd fod y cofnodion wedi dod mor niferus yn y blynyddoedd ddwytha.[5]

Hanes ym Mhrydain[golygu | golygu cod]

Grymanbig Ddu - mwy cyffredin yma ar un adeg?

On September 13th, 1906, I was following otter-hounds at Wangford in Suffolk, and while hounds were drawing a piece of marshy swamp, four of these birds were seen. They rose and flew round, coming quite close over members of the Field, several times. At the time I was standing near an old yokel, and I turned to him and asked him what he called them, and without a moment's hesitation he replied: " Well, we used to call 'em black curloo," and he went on to tell me that he "minded a time when they were common”. The next day I happened to be at a place on the Aldeburgh river, about twenty-one miles from Wangford, and I was informed that somewhere about a fortnight before a couple of these birds had been shot out of a flock of six in all probability the same lot as I saw at Wangford. This old man's remark about the name seems to go to prove that the idea of the local name of " black curlew " is not so unlikely as Mr. Gurney suggests.[6]

Cadwraeth ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[7]


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r ibis du yn perthyn i deulu'r Ibisiaid (Lladin: Threskiornithidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Ibis bronfrith Bostrychia rara
Ibis gyddf-frown Theristicus caudatus
Ibis gyddfddu Theristicus melanopis
Ibis hadada Bostrychia hagedash
Ibis mawr Thaumatibis gigantea
Ibis melynwyrdd Bostrychia olivacea
Ibis moel Geronticus calvus
Ibis moel y Gogledd Geronticus eremita
Ibis tagellog Bostrychia carunculata
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Plegadis falcinellus

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Rhys Jones ym Mwletin 21 tud. 4
  4. Llun Eifion Griffiths Cyfeirnod grid: SJ 016785, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 69 [1]
  5. Rhys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 69
  6. E. Fraser Stanford yn British Birds
  7. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
Safonwyd yr enw Ibis du gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.