Cyhyr croth y goes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Croth y goes)
Cyhyr croth y goes
Enghraifft o'r canlynolcasgliad o gyhyrau, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathcasgliad o gyhyrau arwynebol yn rhan gefn y goes, endid anatomegol arbennig, cyhyr Edit this on Wikidata
Rhan orhan arwynebol o gefn y goes Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscyhyr gastrocnemius, cyhyr soleus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Croth y goes ddynol - pâr o gyhyrau gwirioneddol angenrheidiol i gerdded a rhedeg

Croth y goes (neu 'poten'; 'calf' yn Saesneg) ydy'r pâr o gyhyrau yng nghefn y goes, o dan y pen-glin. Enwau meddygol y ddau gyhyr yw'r 'gastrocnemius' a'r 'soleus', ac mae enw'r cyntaf o gymorth i egluro'r term Cymraeg, 'croth' a ddefnyddir yma. Ystyr 'gastro-' yw 'bola', ac mae'r elfen 'cnemius' yn deillio o'r gair Groeg am 'coes': 'bola'r goes' felly, yn llythrennol yw 'gastrocnemius', a dyma enw Cymraeg arall ar groth y goes. Mae'r holl enwau hyn yn cyfeirio at y ffaith mai siâp bola, neu groth, sydd i'r rhan hon o'r goes.