Cronfa Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Cronfa Glyndŵr
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata

Mae Cronfa Glyndŵr, neu, yn ôl ei henw llawn swyddogol, Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg, yn gronfa ar gyfer hybu addysg Gymraeg drwy gefnogi sefydlu ysgolion a chefnogi disgyblion.

Hanes Sefydlu[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Gronfa ym 1963 gan Trefor a Gwyneth Morgan i hyrwyddo addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.[1][2] Bu i Trefor sefydlu Ysgol Glyndŵr ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1968, fel ysgol breswyl Gymraeg, ond bu i'r ysgol gau yn fuan ei farwolaeth disymwth ym 1970.[3]

Cennad[golygu | golygu cod]

Mae'r Gronfa yn rhoi grantiau i gylchoedd meithrin, ysgolion neu unrhyw gyrff sy’n ymwneud ag addysg Gymraeg. Blaenoriaethir grantiau sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg, ond mae grantiau hefyd yn cael eu rhoi ar gyfer prynu adnoddau i wella profiad addysgol y plant a’r disgyblion.


Mae'r Gronfa yn rhannu arian gyda cheisiadau gan fudiadau ac unigolion sydd angen cymorth i hyrwyddo, darparu neu hwyluso addysg Gymraeg. Ymysg y cyrff sydd wedi elwa mae:[4]

• Cylchoedd Meithrin - wedi cael grantiau i greu taflenni marchnata deniadol er mwyn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n cael y cyfle i dderbyn addysg Gymraeg.

Rhoddwyd cymorth ariannol i nifer o Gylchoedd Meithrin i brynu offer neu adnoddau newydd. Mae hyn wedi eu helpu i wella eu delwedd a rhoi gwell gwasanaeth i’r plant. Mewn rhai achosion y cymorth hwn oedd wedi helpu’r Cylch i gael dau ben llinyn ynghyd a’u hachub rhag gorfod cau dros dro tra’n ‘mynd trwy gyfnod anodd’.

Gwybodaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r Gronfa yn gweithio'n agos gyda Mudiad Meithrin a Rhieni Dros Addysg Gymraeg ac mae'n aelod o Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.

Ariennir y Gronfa drwy cyfraniadau unigolion a mudiadau. Llywydd anrhydeddus y Gronfa yw Cennard Davies.

Rhif elusen swyddogol y mudiad yw 525762.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Amdanon ni". Gwefan Cronfa Glyndwr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-17. Cyrchwyd 2022-02-17.
  2. James, Bryan (October 2014). "50 years on – and still the battle continues!". www.cronfaglyndwr.net. Ninnau, the North American Welsh Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-22. Cyrchwyd 14 February 2016.
  3. Williams, Iolo Wyn (2003). Our Children's Language: The Welsh-medium Schools of Wales 1939-2000. Caerdydd: Y Lolfa. t. 72. ISBN 9780862437046.