Croeso Nôl (drama)
| Enghraifft o: | drama lwyfan |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1983 |
| Awdur | cyfieithiad John A. Owen o waith Tony Marchant |
| Cyhoeddwr | Dalier Sylw y fersiwn Gymraeg |
| Iaith | Saesneg |
| Dynodwyr | |
Cyfieithiad Cymraeg John A. Owen o'r ddrama Saesneg Welcome Home gan Tony Marchant yw Croeso Nôl a gomisiynwyd ac a lwyfannwyd gyntaf yn Gymraeg gan Dalier Sylw ym 1996. Disgrifir y ddrama fel un "dreisgar, ond drama foesol yn ymdrin, yn greulon o onest, â natur grym a sut mae pum milwr caled, proffesiynol yn delio gyda galar wrth iddynt, wedi terfyn rhyfel y Malfinas, ddychwelyd i Brydain i gladdu un o'u cymrodyr, a hynny gyda holl rwysg ac urddas a pherffeithrwydd angladd milwrol".[1]
Cyhoeddwyd y ddrama wreiddiol yn Saesneg ym 1983 gan Methuen. Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg gan Dalier Sylw / CAA fel rhan o'u cyfres o ddramâu yn 2000.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Goldy
- Polo
- Sharp
- Dennis
- Walters
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama yn gyntaf yn y Gymraeg ar 28 Chwefror 1996 yn Nhŷ Llên, Abertawe gan Dalier Sylw; cyfarwyddo John Owen; cynllunydd fideo a Sain Geinor Jones; cynllun goleuo Richard Clayton; cast
- Goldy - Jeremi Cockram
- Polo - Arwel Davies
- Sharp - Rhodri Evan
- Dennis - Rhodri Miles
- Walters - Jâms Thomas
"Roedd hon yn ddrama i ysgwyd cynulleidfa a beirniaid theatr fel ei gilydd" yn ôl Roger Owen yn Barn [Ebrill 1996].[2]