Crispin Nash-Williams
| Crispin Nash-Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | Crispin St John Alvah Nash-Williams 19 Rhagfyr 1932 Caerdydd |
| Bu farw | 20 Ionawr 2001 Ascot |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | mathemategydd, academydd |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Nash-Williams theorem |
| Tad | Victor Erle Nash-Williams |
Mathemategydd o Gymru oedd Crispin St John Alvah Nash-Williams (19 Rhagfyr 1932 – 20 Ionawr 2001). Ei ddiddordeb ymchwil oedd ym maes mathemateg arwahanol (discrete mathematics), yn enwedig damcaniaeth graffiau.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Nash-Williams ar 19 Rhagfyr 1932 yng Nghaerdydd. Roedd ei dad, Victor Erle Nash-Williams (né Williams), yn archaeolegydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd ei fam wedi astudio'r clasuron yn Rhydychen. Yn fachgen ifanc, mynychodd Nash-Williams Ysgol Gadeiriol Christ Church yn Rhydychen, a oedd bryd hynny dan arweiniad Wilfrid Oldaker. Nododd un cofiannydd bod Oldaker wedi bod yn ddylanwad pwysig ar Nash-Williams.[1] Wedi hynny, mynychodd Ysgol Rugby tan oedd yn 18 oed.[1]
Ar ôl astudio mathemateg fel myfyriwr israddedig yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt, gan ennill y teitl Uwch Wrangler ym 1953, arhosodd yno am ei astudiaethau ôl-raddedig, dan oruchwyliaeth Shaun Wylie a David Rees. Yna parhaodd â'i addysg am flwyddyn ym Mhrifysgol Princeton, gyda Norman Steenrod; mae'r tri, Wylie, Rees, a Steenrod, wedi'u rhestru fel goruchwylwyr ei draethawd ymchwil PhD. Gorffennodd ei draethawd ymchwil ym 1958, ond cyn gwneud hynny dychwelodd i Brydain fel darlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Aberdeen.
Arhosodd yn Aberdeen am ddeng mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd ei ddyrchafu ddwywaith. Ym 1967 symudodd i Brifysgol Waterloo a daeth yn un o'r tri aelod o'r gyfadran yn yr Adran Gyfuniadeg (Combinatorics) ac Optimeiddio a oedd newydd ei ffurfio yno. Ym 1972, dychwelodd i Aberdeen fel Athro Mathemateg-Bur, ond dim ond am gyfnod byr cyn symud i Brifysgol Reading ym 1975. Yno olynodd Richard Rado, a oedd wedi bod yn un o'i arholwyr traethawd hir.
Ymddeolodd ym 1996 a bu farw ar 20 Ionawr 2001, yn 68 oed, yn Ascot, Berkshire, lle'r oedd ei frawd yn rheithor.[2][1]
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cafodd ei ethol i Gymdeithas Frenhinol Caeredin ym 1969. Ym 1994, rhoddodd Prifysgol Waterloo ddoethuriaeth er anrhydedd iddo am ei gyfraniadau i gyfuniadeg. Cynhaliwyd cynhadledd er anrhydedd iddo ar ei ymddeoliad ym 1996, a chyhoeddwyd y trafodion. Cyflwynwyd 18fed Gynhadledd Gyfuniadeg Prydain, a gynhaliwyd yn Sussex yng Ngorffennaf 2001, er cof amdano.[1]
Gweithiau pwysig
[golygu | golygu cod]Mae'n adnabyddus am theorem Nash-Williams.
Sgwennodd Hilton[3] bod "Themâu sy'n rhedeg drwy ei bapurau yn cynnwys cylchoedd Hamiltonaidd, graffiau Euleraidd, rhychwantu coed, problem priodoli (matching problem), datgysylltiadau, ail-greu, a graffiau anfeidraidd." Yn ei bapurau cyntaf, ystyriodd Nash-Williams broblemau taith y Marchog a cherdded ar hap ar graffiau anfeidraidd; roedd y papur olaf yn cynnwys maen prawf dychweliad pwysig ar gyfer cadwyni cyffredinol Markov, ac ef hefyd oedd y cyntaf i gymhwyso technegau rhwydwaith trydanol John Strutt, 3ydd Barwn Rayleigh i gerdded ar hap. Roedd ei draethawd hir, a gwblhaodd yn 1958, yn ymwneud â chyffredinoli teithiau Euler i graffiau anfeidraidd.[2][1]
Ysgirfennodd Welsh bod gwaith dilynol Nash-Williams yn diffinio ac yn nodweddu coedenoldeb (arboricity) graffiau (a ddarganfuwyd yn gyfochrog ac yn annibynnol gan W.T. Tutte) wedi "cael effaith enfawr," yn rhannol oherwydd ei oblygiadau mewn damcaniaeth matroid. Astudiodd Nash-Williams hefyd graffiau cysylltiedig ag ymyl-k, cylchoedd Hamilton mewn graffiau dwys, fersiynau o'r dyfaliad ail-greu ar gyfer graffiau anfeidraidd, a damcaniaeth ffug-orchmynion. Rhoddodd hefyd brawf byr cain o theorem coeden-Kruskal.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 D. J. A. Welsh, "Crispin St J. A. Nash-Williams (1932–2001)" in Bulletin of the London Mathematical Society, Cyfr. 35, Rhif 6, Tachwedd 2003, Tud. 829–844.
- ↑ 2.0 2.1 Nash-Williams biography from the MacTutor history of mathematics archive.
- ↑ Hilton, A. J. W. (2001), "Crispin St J A Nash-Williams", Bull. Inst. Combin. Appl. 33: 11–12.