Cribyn, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cribyn (Ceredigion))
Cribyn, Ceredigion
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.139°N 4.162°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN521511 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am le yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Cribyn (gwahaniaethu).

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cribyn, a leolir tua 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan i'r de o bentrefi Troed-y-rhiw, Mydroilyn a Dihewyd.

Gorwedd Cribyn ar lan Afon Granell, un o ledneintiau Afon Teifi, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Capel Sant Silin a Llanwnen.

Sefydlwyd un o'r ychydig gapeli Undodaidd yng Ngheredigion yn y pentref yn 1790 gan Dafydd Davis Castellhywel ac Evan Davies, Cwmbedw.

Sefydlwyd ysgol gynradd Cribyn gan Gwilym Butler-Wilkins yn 1876. Heddiw mae'n ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ganwyd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) yn ffermdy Maes Mynach, ar lan Afon Granell ger Cribyn, ym 1792. Ceir cyfeiriadau at yr ardal mewn rhai o'i gerddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]