Criblys deubig
Criblys deubig Lophocolea bidentata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Lophocoleaceae |
Genws: | Lophocolea |
Rhywogaeth: | L. bidentata |
Enw deuenwol | |
Lophocolea bidentata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Criblys deubig (enw gwyddonol: Lophocolea bidentata; enw Saesneg: bifid crestwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae'n debyg mai dyma'r llysiau afu deiliog mwyaf cyffredin yn Ynysoedd Prydain, ac fe'i ceir mewn ystod eang o gynefinoedd: ar lawr gwlad mewn coetir, glaswelltir a rhostir, a hefyd ar blanhigion a chreigiau eraill.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Mae L. bidentata yn fregus a thryloyw, ac yn wyrdd golau, gyda dail deulabed amlwg (tua 2 mm o hyd). Mae'r coesynnau'n 2–4 mm o led, a gallant dyfu sawl centimetr o hyd.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.