Cracer Nadolig
Jump to navigation
Jump to search
Traddodiad Nadolig mewn sawl gwlad yw'r cracer Nadolig. Cafodd y cracer ei ddyfeisio gan Lundeiniwr o'r enw Tom Smith yn y 1840au. Un dydd taflodd boncyff ar ei dân a chlywodd clec y coed wrth iddo losgi. Roedd yn barod wedi creu ac yn gwerthu tiwbiau bychain oedd angen eu tynnu er mwyn cael y losin neu'r anrheg tu mewn, a chafodd y syniad o roi rhywbeth i mewn i wneud sŵn pan câi'r tiwb ei dorri. Gwerthodd miliynau o graceri ar draws Prydain a gwledydd eraill yn ystod ei fywyd. Rhodd darnau o bapur gyda jôcs neu bosau arnynt i mewn i'r craceri, a theithiodd ar draws y byd i gael syniadau am anrhegion bychain.