Cortina d'Ampezzo
| Math | cymuned, tref |
|---|---|
| Prifddinas | Cortina d'Ampezzo |
| Poblogaeth | 5,546 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Skardu, Cattolica |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Belluno |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 252.81 km² |
| Uwch y môr | 1,224 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Badia, Prags, Toblach, Marebbe, San Vito di Cadore, Auronzo di Cadore, Colle Santa Lucia, Livinallongo del Col di Lana |
| Cyfesurynnau | 46.538333°N 12.137351°E |
| Cod post | 32043 |
![]() | |
Tref a chymuned yng ngogledd yr Eidal yw Cortina d'Ampezzo ( Eidaleg: [korˈtiːna damˈpɛttso]; Ladineg: Anpezo (yn lleol) neu Ampëz (mewn man arall); Almaeneg Awstria hanesyddol: Hayden), sy'n aml yn cael ei fyrhau i Cortina. Fe'i lleolir yn nhalaith Belluno yn rhanbarth Veneto. Saif ar Afon Boite mewn dyffryn yn y Dolomitau (rhan o'r Alpau). Mae'n rhan o ranbarth diwylliannol ac ieithyddol Ladinia (lle mae Ladiniaid yn byw a lle mae Ladineg yn cael ei siarad). Ar 31 Hydref 2025, roedd gan y dref boblogaeth o 5,403.[1]
Y prif ddiwydiant yn Cortina d'Ampezzo yw twristiaeth, ac mae'r dref yn fwyaf adnabyddus am ei chwaraeon gaeaf (yn enwedig sgïo). Roedd y dref i fod i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 1944, a gafodd eu canslo oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Ers hynny, mae wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau chwaraeon gaeaf, gan gynnwys Gemau Olympaidd y Gaeaf ym 1956 (ar ei ben ei hun) a 2026 (gan gyd-gynnal â Milan). Mae'r dref yn gartref i SG Cortina, tîm hoci iâ proffesiynol sy'n chwarae yng Nghynghrair Hoci'r Alpau (a'r Serie A gynt).
Mae sawl ffilm wedi cael eu ffilmio yn y dref, fel The Pink Panther (1963), For Your Eyes Only (1981) a Cliffhanger (1993).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Monthly demographic balance for the year 2025 (provisional data)" [Cydbwysedd demograffig misol ar gyfer y flwyddyn 2025 (data dros dro)] (yn Saesneg). Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol yr Eidal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2026.
