Cors Okefenokee

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cors Okefenokee
OkefenokeeCanalDiggersTrail.wmg.jpg
Math swamp Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Georgia, Florida Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau 30.6188°N 82.321°W, 30.7°N 82.3°W Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Black Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth National Natural Landmark Edit this on Wikidata
Cors Okefenokee
Cors Okefenokee
crëyr yng Nghors Okefenokee
Aligator yng Nghors Okefenokee
Cors Okefenokee
Adar ysglyfeithus ar Gors Okefenokee

Cors yn yr Unol Daleithiau yw Cors Okefenokee, sydd ar y ffin rhwng taleithiau Georgia a Florida yn ne-ddwyrain y wlad. Ystyr yr enw yn iaith y brodorion yw Gwlad o bridd crynedig. Crëwyd Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Genedlaethol Okefenokee ym 1937. Maint y warchodfa yw 402,000 o aceri, gan gynnwys cors gypreswydd, coed gwm, llawrwydd, afonydd troellog a mawndir. Mae mwy na 400 math o anifeiliaid yno – 200 ohonynt yn adar a 60 ohonynt yn ymlusgiaid, gan gynnwys aligatorod a chrehyrod.[1] Torrwyd coed o 1910 ymlaen, a chollodd yr ardal filoedd o gypreswydd a llawrwydd cochion, gan gynnwys rhai'r mwyaf yn yr Unol Daleithiau cyn sefydliad y warchodfa genedlaethol. Mae'r hinsawdd yn un is-drofannol, ac mae tua 50 modfedd o law yn flynyddol. Mae dyfroedd asidig y gors rhwng dwy a deg troedfedd o ddyfnder. Mae 85 y cant yn llifo i lawr Afon Suwannee i gyfeiriad y gorllewin, a'r gweddill i lawr Afon St Mary's i Gefnfor yr Iwerydd. Mae tua 70 o ynysoedd mawn yn arnofio ar wyneb dŵr y gors.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn amserau cynhanes, roedd tomenwyr yn byw yn y gors. Yn nes ymlaen daeth y gors yn ffin rhwng tri llwyth, sef y Mocama, y Timucua a'r Apalatchee. Cyn 1700, yr oedd sôn am y gors gan genhadon Sbaeneg ac hefyd gan Saeson o De Carolina. Gelwir y Gors 'Lago Oconi' gan y Sbaenwyr. Gyrrwyd y Sbaenwyr o'r ardal gan y Saeson yn ystod Rhyfel y Frenhines Ann, fel y galwyd ymgyrch Americanaidd Rhyfel yr Olyniaeth Sbaenaidd. Ym 1715, gorchfygwyd y llwyth Yemassee gan Dde Carolina ac aethent i'r de i Afon St. Mary a ffurfiwyd cenedl y Seminôl gan lwythau Timucua, Hitchiti, a Yemassee. Yn ôl mytholeg Seminôl, oedd y gors yn deyrnas annibynnol.

Dechreuodd rhyfel rhwng Byddin yr Unol Daleithiau a'r Seminôl ac enciloedd rhai o'r Seminôl i'r gors. Ym 1830, pasiodd Deddf Symudiad yr Indiaidd ac aeth y fyddin i'r gors, lle adeiladwyd ceyrydd o'i chwmpas. Dechreuwyd gweithio'r tir ym 1852 a gwerthwyd y cyfan erbyn 1891. Adeiladwyd Rheilffordd Atlantic, Valdosta a Gorllewinol ym 1897-8. Dechreuodd gwaith torri coed ac adeiladwyd rheilffordd hyd at Ynys Billy i gludo coed.[3]

Planhigion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae glasswellt, hesg, rhedyn a brwyn yn tyfu yn ardaloedd mwy sychach. Mae lilïau'r dŵr, picrelys, alaw euraidd yn ardaloedd gwlyb. Mae nifer o blanhigion cigysol hefyd, gan gynnwys piserlys, chwys yr haul, tafod y gors a chwysigenwraidd.[2]

Adar[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelir sawl math o grehyrod, storc, garan yr Aifft. Mae hwyaid penfras, corhwyaid asgell las a hwyaid eraill yn ymweld yn y gaeaf. Mae corsieir ac adar y bwn lleiaf yn fwy cyffredin yn yr haf. Mae adar eraill yn mynd trwodd yn ystod y gwanwyn a hydref. Mae hwyaid a crehyrod yno trwy'r flwyddyn.[2]

Mamaliaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Tua 30 math o anifeiliaid yn byw yno, gan gynnwys llwynogod llwyd, oposwmiaid, racwniaid, eirth duon, ceirw cynffon wen, bobgathod, dyfrgwn, mincod, llostlydan|llostllydanod]] a chwningod.[2]

ymlysgiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Clywir a gwelir aligatorod trwy'r amser. Amcangyfrir bod yno 12000 ohonynt yn y gors.[4]. Mae ambell neidr; y neidr indigo ydy'r un mwyaf, ond braidd yn brin. Hefyd, mae nadroedd enfys. Ymysg y rhai wenwynog yw gwiber ddŵr a neidr ddeimwnt. Gwelir sgincod a chrwbanod y môr, mwy nac hugain fath o lyffant a salamandrau.[2]

Pysgod[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelir amrywiaeth o bysgod yn y gors, gan gynnwys môr-nodwydd, llysywen, pysgodyn bach yr haul, picrel a sawl math o cathbysgod|gathbysgod]].[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]