Coronafeirws (grŵp o firysau)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Coronavirus)
Coronafeirws
Enghraifft o'r canlynoltacson, organebau yn ôl enw cyffredin Edit this on Wikidata
MathFirws Edit this on Wikidata
Safle tacsonIsdeulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCoronaviridae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y grwp o firysau yw hon.
Am y firws penodol a achosodd yr epidemig, gweler SARS-CoV-2.
Am yr haint a achoswyd gan SARS-CoV-2, gweler COVID-19
Am y pandemig cyfoes, gweler yr erthygl Pandemig coronafeirws 2019–20.

Grŵp o firysau a all achosi heintiau mewn mamaliaid ac adar yw'r coronafirysau, a ddarganfuwyd yn y 1960au.[1] Mewn bodau dynol, mae'n achosi problemau anadlu, a cheir amrywiadau negis SARS a MERS sy'n beryg bywyd, a mathau eraill sy'n eithaf diniwed ac sy'n debycach i'r ffliw. Mewn gwartheg a moch gall y firws achosi dolur rhydd, tra mewn ieir gall achosi clefyd anadlol. Yn 2020 nid oedd brechlynnau na chyffuriau gwrthfeirol a oedd yn cael eu cymeradwyo i atal y firws rhag ymledu, na thriniaeth ar gyfer y claf.

Mae'r coronafeirws yn feirws o fewn yr isdeulu Orthocoronavirinae yn y teulu Coronaviridae, o fewn urdd y Nidovirales.[2][3] Mae'r coronafirysau'n 'amlennol', ac mae ganddyn nhw positive-sense single-stranded RNA genome a chymesuredd heligal. Hyd y gwyddys, dyma'r firws-RNA mwya: 26 i 32 kbp (kilo base pair).

Mae'r enw 'coronafeirws' yn fenthyciad o'r Saesneg, "coronavirus" sy'n deillio o'r gair Lladin 'corona' sef 'coron' yn Gymraeg, ac sy'n cyfeirio at ymddangosiad nodweddiadol y gronynnau firws (virions): mae ganddyn nhw ymyl sy'n atgoffa rhywun o goron frenhinol neu'r corona solar.

Mewn bodau dynol[golygu | golygu cod]

Credir bod coronafirysau yn achosi canran sylweddol o'r holl annwyd cyffredin mewn oedolion a phlant. Mae coronafirysau yn achosi symptomau trwm e.e. twymyn, adenoidau chwyddedig yn y gwddf, a hynny yn bennaf yn nhymor y gaeaf a dechrau'r gwanwyn.[4] Gall coronafirysau achosi niwmonia, naill ai niwmonia firaol uniongyrchol neu niwmonia bacteriol eilaidd a gallant hefyd achosi broncitis, firaol neu facteriol.[5]

Mae gan y coronafeirws dynol a ddarganfuwyd yn 2003, sef y SARS-CoV sy'n achosi syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS), bathogenesis unigryw oherwydd ei fod yn achosi heintiau'r llwybr anadlol uchaf ac isaf.[5]

Yn 2020, roedd 7 math (neu 'strain') o goronofirysau'n bodoli, gyda 4 ohonynt yn hollol ddiniwed ac yn rhoi symptomau annwyd. Dyma'r 7:

  1. HCoV-229E (Human coronavirus OC43 )
  2. HCoV-OC43
  3. SARS-CoV
  4. HCoV-NL63
  5. Human coronavirus HKU1
  6. MERS-CoV, a adnabuwyd hefyd gyda'r enwau novel coronavirus 2012 a HCoV-EMC.
  7. SARS-CoV-2,[6][7] a adnabyddir hefyd gyda'r enw "Niwmonia Wuhan" neu "Coronafeirws Wuhan".[8] (mae 'Novel' yma'n enw dros dro, ac yn cyfeirio at y ffaith mai firws newydd ei ddarganfod yw hwn.)[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Coronavirus: Common Symptoms, Preventive Measures, & How to Diagnose It". Caringly Yours (yn Saesneg). 2020-01-28. Cyrchwyd 2020-01-28.[dolen marw]
  2. de Groot RJ, Baker SC, Baric R, Enjuanes L, Gorbalenya AE, Holmes KV, Perlman S, Poon L, Rottier PJ, Talbot PJ, Woo PC, Ziebuhr J (2011). "Family Coronaviridae". In AMQ King, E Lefkowitz, MJ Adams, EB Carstens (gol.). Ninth Report of the International Committee on Taxonomy of Viruses. Elsevier, Oxford. tt. 806–828. ISBN 978-0-12-384684-6.
  3. International Committee on Taxonomy of Viruses (24 Awst 2010). "ICTV Master Species List 2009 – v10" (xls).
  4. "Prevalence and genetic diversity analysis of human coronaviruses among cross-border children" (yn En). Virology Journal 14 (1): 230. November 2017. doi:10.1186/s12985-017-0896-0. PMC 5700739. PMID 29166910. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5700739.
  5. 5.0 5.1 "Healthcare-associated atypical pneumonia". Seminars in Respiratory and Critical Care Medicine 30 (1): 67–85. Chwefror 2009. doi:10.1055/s-0028-1119811. PMID 19199189.
  6. "Laboratory testing of human suspected cases of novel coronavirus (nCoV) infection. Interim guidance, 10 Ionawr 2020" (PDF). Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 14 Ionawr 2020.
  7. 7.0 7.1 "Novel Coronavirus 2019, Wuhan, China | CDC". www.cdc.gov. 23 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2020. Cyrchwyd 23 Ionawr 2020.
  8. "Pneumonia of unknown cause – China". World Health Organization. 5 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2020. Cyrchwyd 23 Ionawr 2020.