Neidio i'r cynnwys

Cordoffon

Oddi ar Wicipedia
Cordoffon
Enghraifft o:dosbarth o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn cerdd Edit this on Wikidata
Rhan oHornbostel–Sachs, Dosbarthiad MIMO o offerynnau cerdd, Dosbarthiad Guizzi o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/011_f4 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1601 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn cerdd sy'n cynhyrchu sain drwy achosi i dannau ddirgrynu yw cordoffon. Mae cordoffonau yn un o'r prif ddosbarthiadau yn system Hornbostel–Sachs. Offerynnau tannau yw'r ffurfiau mwyaf cyfarwydd o cordoffonau.

Mathau

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhifau isod yn cyfeirio at y dosbarthiad yn system Hornbostel-Sachs.

  • 31: Cordoffonau syml neu sitherau
Offerynnau sydd â thannau gyda rhan i'w dal. Fel arfer mae gan yr offerynnau hyn seinfwrdd.
    • 311: Sitherau bar
Mae'r rhan sy'n dal y tannau ar siâp bar.
      • 311.1: Bwâu cerddorol
Mae'r rhan sy'n dal y tannau yn grwm ac yn hyblyg.
      • 311.2: Sitherau ffon
Mae'r rhan sy'n dal y tannau yn syth ac yn anhyblyg
    • 312: Sitherau tiwb
Mae tiwb yn gweithredu fel gwddf yr offeryn ac hefyd fel ei seinfwrdd.
    • 313: Sitherau rafft
Mae'r rhan sy'n dal y tannau wedi'i gwneud o gansenni wedi'u clymu at ei gilydd ar ffurf rafft.
    • 314: Sitherau bwrdd
Mae'r rhan sy'n dal y tannau wedi'i gwneud o fwrdd gwastad.
    • 315: Sitherau cafn
Mae'r rhan sy'n dal y tannau wedi'i gwneud ar ffurf cafn.
    • 316: Sitherau ffrâm
Mae'r tannau wedi'u hymestyn ar draws ffrâm agored.
  • 32: Cordoffonau cyfansawdd
Offerynnau sydd â seinfwrdd fel rhan annatod. Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o offerynnau tannau y Gorllewin.
    • 321: Liwtiau
Mae'r tannau'n rhedeg yn gyfochrog ag wyneb y seinfwrdd.
    • 322: Telynau
Mae'r tannau'n rhedeg yn unionsyth ag wyneb y seinfwrdd.
    • 323: Liwtiau telyn
Offerynnau sy'n cyfuno elfennau strwythurol telynau a liwtau.
  • 33: Cordoffonau diddosbarth

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]