Conway Castle (ffilm 1898)

Oddi ar Wicipedia
Conway Castle

Ffrâm allan o'r ffilm
Sinematograffeg William K.L. Dickson
Dylunio
Cwmni cynhyrchu British Mutoscope & Biograph Company
Dyddiad rhyddhau Ebrill 1898
Amser rhedeg 2 funud 21 eiliad
Gwlad Cymru
Iaith ffilm fud

Mae Conway Castle yn ffilm fud a grëwyd gan gwmni British Mutoscope and Biograph ym mis Chwefror 1898[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ym 1897 creodd cangen Americanaidd y Cwmni American Mutoscope and Biograph Company ffilm rithdaith o'r enw The Haverstraw Tunnel.[2] Ffilm oedd wedi ei dynnu trwy glymu gŵr camera ar flaen trên. Roedd y ffilm yn dangos y daith ar hyd y West Shore Railroad yn Rockland, Efrog Newydd. Bu'r ffilm yn hynod lwyddiannus a gan hynny penderfynwyd gwneud ffilmiau tebyg mewn rhannau eraill o'r byd a daeth y ffilm rithdaith (phantom ride) yn genre neu gategori o ffilm gynnar. Fe'u galwyd yn rhithdeithiau oherwydd bod safle'r camera yn golygu mai dim ond y trac a'r golygfeydd y gellid eu gweld a bod y symudiad yn ymddangos fel petai yn deillio o rym rhithiol anweledig.[3]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Mae Conway Castle yn ffilm fer 2 funud 21 eiliad sydd yn dangos y daith dros gob Conwy a thros bont rheilffordd Robert Stephenson. Mae'r trên yn mynd heibio'r Castell a'r orsaf a thrwy waliau'r dref. Bu'r ffilm yn hynod boblogaidd ac yn cael ei ddangos i gynulleidfaoedd trwy Brydain, Ewrop a'r Unol Daleithiau hyd 1910.

Mae copi o'r ffilm wedi ei gadw yn yr EYE Filmmuseum, yn yr Iseldiroedd. Mae'r copi wedi ei rannol lliwio. Credir ei fod wedi lliwio peth amser ar ôl iddo gael ei ddangos gyntaf gan nad oes adolygiadau cyfoes na hysbysebion yn cyfeirio at beth fyddai o bosibl yn bwynt gwerthu / trafod mawr, gan fyddai 1898 yn gynnar iawn ar gyfer ffilmiau lliw.

Ei le yn hanes ffilm Cymru[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd y ffilmiau symudol cyntaf ym 1895. Mae'n debyg bod ffilm o ymweliad gan Dywysog Cymru i Gaerdydd wedi ei saethu ym 1897, ond nid yw wedi goroesi. Roedd Arthur Cheetham o'r Rhyl yn dangos ffilmiau a gynhyrchwyd gan eraill o 1897 ac o'i gynhyrchiad ei hun o 1898. Dangoswyd y ffilm gynharaf gan Cheetham sydd dal ar gael Plant yn Chware ar Draeth y Rhyl yn nhymor yr haf 1898, ond mae'n bosib ei fod yn ffilm o blant yn chware ar y traeth ym 1897. Does dim modd, gan hynny dweud pa un yw'r ffilm gynharaf wedi ei leoli yng Nghymru i oroesi. Ond yn ddi-os mae Conway Castle yn un o'r ddwy gynharaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC Wales Arts Transport in Welsh film adalwyd 8 Chwefror 2018
  2. "The Haverstraw Tunnel (1897) ar IMDb". Cyrchwyd 8 Hydref 2018.
  3. Conway Castle ar safle Britain on Film

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru wedi gosod copi o'r ffilm ar wefan Britain on Ffilm: