Constance Lewcock

Oddi ar Wicipedia
Constance Lewcock
Ganwyd11 Ebrill 1894 Edit this on Wikidata
Horncastle Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
Newcastle upon Tyne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét, athro, cynghorydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Lafur Annibynnol Edit this on Wikidata
PriodWilliam Lewcock Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Constance Lewcock (née Ellis; 11 Ebrill 1894 - 11 Tachwedd 1980).

Ganed Constance (Connie) Mary Ellis yn Horncastle, Swydd Lincoln ar 11 Ebrill 1894 a bu farw yn Newcastle upon Tyne.[1][2]

Ym 1913 ymunodd gyda'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union). Dysgodd am wleidyddiaeth trwy gadeirio a siarad yng nghyfarfodydd y WSPU ledled Swydd Durham.

Ceisiodd losgi rhan o Eglwys Gadeiriol Durham ond methodd. Yn ddiweddarach, ymrwymodd i'r hyn a alwodd yn "drosedd berffaith". Yn 1914 llosgodd i lawr adeilad rheilffordd yn Esh Winning, Swydd Durham. Roedd hi wedi dylunio system lle gosodwyd jar o hylif fflamadwy ar dân pan losgodd cannwyll i lawr. Roedd hyn yn golygu, erbyn i'r adeilad pren gael ei gynnau, ei bod filltiroedd i ffwrdd, ac alibi soled o dan ei belt. Roedd hi hefyd yn ffodus i gael cymorth gan löwr o'r enw Joss Craddock. Roeddent wedi gweithio gyda'i gilydd mewn cyfarfodydd lle gallai Joss ddal y stiwardiaid yn ôl, er mwyn iddi hi wneud ei phwynt. Roedd hyn yn golygu bod Lewcock yn osgoi'r cleisiau yr oedd hi'n arfer eu cael cyn iddynt gyfarfod.[3][4][5]

Llosgodd adeilad y rheilffordd yn Esh Winning yn ulw, ond ni allai'r Heddlu ei harestio'n ffurfiol gan fod ganddi dros dri-deg o dystion a allai dystio ei bod hi gyda nhw ar adeg y tân. Fodd bynnag, nid oedd angen prawf ar ei chyflogwyr a dywedwyd wrthi bod yn rhaid iddi roi'r gorau i'w gweithredoedd gwleidyddol neu roi'r gorau i addysgu. Rhoddodd y gorau i addysgu. Y flwyddyn honno daeth yr UGCG a Llywodraeth Lloegr i gytundeb ar gadoediad yn ystod y rhyfel. Trodd Lewcock hithau ei golygon a'i hamser gweithgareddau fel aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol. [6][7][8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: OBE[9] .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewcock [née Ellis], Constance Mary [Connie] : Oxford Dictionary of National Biography - oi (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/89853. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-16. Cyrchwyd 2019-04-16.
  2. Pugh, M. (2005-05-26). Lewcock [née Ellis], Constance Mary [Connie] (1894–1980), suffragette and socialist. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 29 Tachwedd 2017, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-89853.
  3. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  4. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  5. Man geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  6. Galwedigaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  7. Aelodaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  8. Anrhydeddau: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  9. Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/