Coniston Water
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd |
| Lleoliad | Ardal y Llynnoedd, Lloegr |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 4.7 km² |
| Uwch y môr | 43 metr |
| Cyfesurynnau | 54.35°N 3.0667°W |
| Hyd | 8.8 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Ardal y Llynnoedd, Lloegr |
![]() | |
Llyn yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Coniston Water. Mae'n 5 milltir o hyd, hanner millter o led.[1] a dyfnder o 184 troedfedd. Mae pentref Coniston tua hanner milltir o'r llyn a cheir tair ynys.
Gwelir cwch stêm, neu "Gondola", yn gweithio rhwng Mawrth a Thachwedd, sy'n eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.[2]

Hanes
[golygu | golygu cod]Perchnogion y llyn yn 13eg a 14eg canrifoedd oedd mynachod Abaty Furness.[3] Mae tŷ John Ruskin, Brantwood, ar lan ddwyreiniol y llyn, ac yn agored i ymwelwyr. Prynodd Ruskin y tŷ ym 1871. Mae Amgueddfa Ruskin yn y pentref yn cynnwys arddangosfa am Syr Donald Campbell, a laddwyd ar 4ydd Ionawr 1967 tra'n ceiso am record y byd am gyflymder yn ei gwch Bluebird. Codwyd Bluebird o waelod y llyn ar 8fed Mawrth 2001, a darganfuwyd ei gorff ar 28ain Mai 2001. Fe'i claddwyd ym mynwent Coniston.[3]
Torrwyd record y byd ar ddŵr ar y llyn gan Syr Malcolm Campbell, tad Donald, ym 1939 efo cyflymder o dros 141 milltir yr awr.
Seiliwyd "Swallows and Amazons" gan Arthur Ransome ar y llyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "tudalen Coniston ar wefan Ardal y Llynnoedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-06. Cyrchwyd 2014-02-09.
- ↑ [gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol]
- 1 2 "gwefan visit Cumbria". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-09. Cyrchwyd 2014-02-09.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Coniston Water o'r gogledd
- Tarth ar Coniston Water
- SY Gondola yn dod i mewn i'r doc
