Confensiwn Minamata ar Arian Byw

Oddi ar Wicipedia
Confensiwn Minamata ar Arian Byw
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Hydref 2013 Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg, Saesneg, Sbaeneg, Rwseg, Arabeg, Tsieineeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 Hydref 2013 Edit this on Wikidata
LleoliadKumamoto Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mercuryconvention.org/ Edit this on Wikidata

Mae Confensiwn Minamata ar Arian Byw yn gytundeb rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i amddiffyn iechyd dynol a'r amgylchedd rhag allyriadau a gollyngiadau a chyfansoddion arian byw (a elwir weithiau yn 'mercwri '). Roedd y confensiwn yn ganlyniad tair blynedd o gyfarfodydd, a chymeradwywyd testun y confensiwn gan bron i 140 o wledydd ar 19 Ionawr 2013 yng Ngenefa a'i fabwysiadu a'i lofnodi yn ddiweddarach y flwyddyn honno ar 10 Hydref 2013 mewn cynhadledd ddiplomyddol. a gynhaliwyd yn Kumamoto, Japan.

Enwir y confensiwn ar ôl y ddinas Japaneaidd Minamata yn Kumamoto. Mae'r enw hwn o bwysigrwydd symbolaidd oherwydd i'r ddinas fynd trwy ddigwyddiad dinistriol iawn o wenwyn arian byw rai blynyddoedd cynt. Disgwylir y bydd y cytundeb rhyngwladol hwn yn lleihau' llygredd o arian byw o'r gweithgareddau sy'n gyfrifol am ryddhau arian byw mawr i'r amgylchedd cyfagos.[1]

Ymhlith amcanion craidd Confensiwn Minamata mae amddiffyn iechyd dynol a'r amgylchedd rhag allyriadau anthropogenig a gollyngiadau o arian byw a chyfansoddion arian byw. Mae'n cynnwys ddarpariaethau sy'n ymwneud ag arian byw o'i dechrau i'w ddiwedd, gan gynnwys lle mae'n cael ei ddefnyddio, ei ryddhau a'i ollwng. Mae'r cytundeb hefyd yn mynd i'r afael â mwyngloddio arian byw yn uniongyrchol, ei allforio a'i fewnforio, ei storio'n ddiogel a'i waredu fel gwastraff. Bydd nodi poblogaethau sydd mewn perygl, rhoi hwb i ofal meddygol a gwell hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi a thrin effeithiau sy'n gysylltiedig ag arian byw hefyd yn ganlyniad i weithredu'r confensiwn.

Mae Confensiwn Minamata yn darparu rheolaethau dros lawer o gynnyrch a oedd yn cynnwys arian byw, lle gwaharddwyd eu gweithgynhyrchu, eu mewnforio a'u hallforio yn 2020,[2] ac eithrio pan fydd gwledydd wedi gofyn am eithriad am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd.[3] Mae'r cynhyrchion hyn yn cynnwys rhai mathau o fatris, lampau fflworoleuol, sebon a cholur, thermomedrau, a dyfeisiau pwysedd gwaed. Mae llenwadau deintyddol sy'n defnyddio amalgam arian byw hefyd yn cael eu rheoleiddio o dan y confensiwn, a byddant yn cael eu dileu dros gyfnod.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae arian byw (neu 'merciwri, fel sy'n cael ei nodi yn y Termiadur Addysg - Cemeg a Bioleg) yn elfen sy'n digwydd yn naturiol. Gellir ei ryddhau i'r amgylchedd yn naturiol hefyd e.e. drwy hindreulio creigiau sy'n cynnwys arian byw, tanau coedwig, ffrwydradau folcanig neu weithgareddau geothermol - ond hefyd o weithgareddau dynol. Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod rhwng 5,500-8,900 tunnell o arian byw yn cael ei allyrru a'i ail-allyrru bob blwyddyn i'r atmosffer, ac ystyrir bod llawer o'r arian byw a ail-allyrir yn gysylltiedig â gweithgaredd dynol, yn ogystal â'r gollyngiadau uniongyrchol.

Oherwydd ei briodweddau unigryw, mae arian byw wedi'i ddefnyddio mewn llawer o gynhyrchion a phrosesau ers cannoedd o flynyddoedd, yn bennaf mewn prosesau diwydiannol sy'n cynhyrchu clorid (PVC), ac elastomers polywrethan. Fe'i defnyddir yn helaeth i echdynnu aur o fwyn yn y gwaith o fwyngloddio aur artisanal ar raddfa fach. Caiff hefyd ei gynnwys mewn switshis trydanol (gan gynnwys thermostatau), trosglwyddyddion, offer mesur a rheoli, bylbiau golau fflwroleuol ynni-effeithlon, rhai mathau o fatris ac amalgam deintyddol. Fe'i defnyddir hefyd mewn labordai, colur, cynnyrch fferyllol, gan gynnwys mewn brechlynnau fel cadwolyn (preservative), paent, a gemwaith. Mae arian byw hefyd yn cael ei ryddhau'n anfwriadol o rai prosesau diwydiannol, megis cynhyrchu pŵer a gwres glo, cynhyrchu sment, mwyngloddio a gweithgareddau metelegol eraill megis cynhyrchu metelau anfferrus, yn ogystal ag o losgi llawer o fathau o wastraff.[4]

Y ffynhonnell unigol fwyaf o allyriadau arian byw gan ddyn yw'r sector cloddio aur, sy'n gyfrifol am ryddhau cymaint â 1,000 tunnell o arian byw i'r atmosffer bob blwyddyn.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bailey, Marianne (24 February 2014). "Minamata Convention on Mercury". United States Environmental Protection Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2014. Cyrchwyd 12 October 2014.
  2. "Minamata Convention Agreed by Nations". UNEP. 19 January 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2023. Cyrchwyd 5 January 2020.
  3. "Exemptions under the Minamata Convention on Mercury". UNEP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 May 2022. Cyrchwyd 13 May 2022.
  4. UNEP, 2013.
  5. "Minamata Convention on Mercury Aims #MakeMercuryHistory" (Online). ABC Live India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2021. Cyrchwyd 16 August 2020.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]