Confensiwn Cemegolion

Oddi ar Wicipedia
Confensiwn Cemegolion
Enghraifft o'r canlynolConfensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dyddiad1990 Edit this on Wikidata

Confensiwn Cemegolion, 1990 oedd y 77fed sesiwn o'r Confensiwn Llafur Rhyngwladol a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 1990 yn Genefa. Pwrpas y confensiwn oedd nodi pwysigrwydd diogelu'r amgylchedd, y cyhoedd a gweithwyr diwydiannol rhag cemegau.

Mae'n nodi perthnasedd Confensiwn Budd-daliadau Anafiadau Cyflogaeth, 1964, Confensiwn ac Argymhelliad Bensen, 1971, Confensiwn Canser Galwedigaethol ac Argymhelliad 1974, Confensiwn Amgylchedd Gwaith (Llygredd Aer, Sŵn a Dirgryniad), 1977, y rhestr o glefydau galwedigaethol a ddiwygiwyd ym 1980, Confensiwn ac Argymhelliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, 1981, Confensiwn ac Argymhelliad Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol, 1985 a Chonfensiwn ac Argymhelliad Asbestos 1986. Mae'n nodi pwysigrwydd y drefn o hysbysu gweithwyr am y cemegau a ddefnyddir a lleihau'r posibilrwydd o salwch ac anafiadau yn y gwaith.[1]

Cwmpas a diffiniadau[golygu | golygu cod]

Mae'r ddwy erthygl gyntaf yn ymdrin â'r diffiniadau o'r gwahanol dermau i'w defnyddio yn y confensiwn hwn a'r meysydd cymhwyso neu gwmpasau cymhwyso.

Erthygl 1[golygu | golygu cod]

Mae'r confensiwn hwn yn berthnasol i bob cangen o economi, lle defnyddir cemegau. Ar ôl asesiad o'r peryglon dan sylw a mesurau amddiffynnol i'w defnyddio, gall sefydliad gael ei eithrio gan awdurdod cunrhyw aelod-wladwriaeth os deuir ar draws problemau arbennig, os darperir amddiffyniad digonol, neu os na fydd y rhagofalon a gymerir i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol yn peryglu diogelwch gweithwyr. Nid yw'r confensiwn hwn yn berthnasol i erthyyglau nad ydynt yn ymwneud â gweithwyr mewn gweithleoedd lle ceir cemegau peryglus. Nid yw'n berthnasol i organebau, ond mae;n berthnasol i gemegau sy'n deillio o organebau.

Erthygl 2[golygu | golygu cod]

Diffinnir y term cemegau fel elfennau a chyfansoddion naturiol neu synthetig ar gyfer y confensiwn hwn.Mae'r term cemegolion peryglus yn golygu unrhyw gemegyn a ddosberthir fel un peryglus o dan Erthygl 6 neu y mae gwybodaeth yn bodoli ar ei gyfer sy'n nodi ei fod yn beryglus.Mae'r term eitem yn awgrymu gwrthrych sydd â siâp neu batrwm penodol wrth ei weithgynhyrchu neu sydd ar ffurf naturiol ac y mae ei ddefnydd yn dibynnu'n gyfan gwbl neu'n rhannol ar ei siâp neu batrwm.Mae cynrychiolwyr gweithwyr yn bersonau a gydnabyddir gan gyfraith neu ymarfer cenedlaethol yn unol â Chonfensiwn Cynrychiolwyr y Gweithwyr, 1971 .

Darpariaethau cyffredinol[golygu | golygu cod]

Erthygl 3[golygu | golygu cod]

Rhaid ymgynghori â sefydliadau mwyaf cynrychioliadol y cyflogwyr a'r gweithwyr dan sylw ar y mesurau a gaiff eu gweithredu.

Erthygl 4[golygu | golygu cod]

Bydd pob aelod-wladwriaeth yn llunio, gweithredu ac yn adolygu o bryd i'w gilydd bolisi cydlynol ar gyfer diogelwch wrth ddefnyddio cemegau yn y gweithle.

Erthygl 5[golygu | golygu cod]

Caniateir i'r awdurdod cymwys wahardd rhai cemegau peryglus rhag cael eu defnyddio ar sail diogelwch neu ofyn am gymeradwyaeth i'w defnyddio, ymlaen llaw.

Dosbarthiad a mesurau cysylltiedig[golygu | golygu cod]

Mae erthyglau chwech i naw yn ymdrin â dosbarthiad yr holl gemegau, cyflenwad, rhagofalon diogelwch ac argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Mae'r mesurau'n cael eu cofnodi ar daflenni data diogelwch wedi'u haddasu.

Erthygl 6[golygu | golygu cod]

Rhaid i'r awdurdod cymwys neu gorff a gymeradwyir neu a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys sefydlu systemau ar gyfer dosbarthu pob cemegyn.Gellir pennu priodweddau peryglus cymysgeddau ar sail pa mor beryglus yw'r cydrannau unigol.Efallai y bydd Argymhelliad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei ystyried wrth gludo nwyddau peryglus.Mae'r systemau dosbarthu a'u cymhwysiad yn cael eu hehangu'n raddol.

Erthygl 7[golygu | golygu cod]

Rhaid i bob cemegyn gael ei labelu. Rhaid marcio cemegau peryglus yn arbennig. Bydd y marciau hyn yn cael eu gwneud gan yr awdurdod cymwys ei hun neu bydd yr awdurdod cymwys yn caniatáu'r marcio. Wrth gludo nwyddau peryglus, rhaid ystyried argymhellion y Cenhedloedd Unedig.

Erthygl 8[golygu | golygu cod]

Rhaid darparu taflenni data i gyflogwyr sy'n cynnwys gwybodaeth am beryglon, cyflenwyr, rhagofalon diogelwch a gweithdrefnau brys ar gyfer cemegau peryglus.Mae'r taflenni data'n amodol ar feini prawf a osodwyd gan yr awdurdod cymwys neu gyrff cydnabyddedig o dan Feini Prawf. Rhaid i'r enw a ddefnyddir ar y taflenni data gyfateb i'r enw ar y label.

Am weddill y rhestr, gweler gwefan y CU.

Cadarnhau[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2023, cadarnhawyd y confensiwn gan 23 o wledydd.[2]

Gwlad Belg 14 Mehefin 2017 Mewn grym
Brasil 23 Rhagfyr 1996 Mewn grym
Burkina Faso 15 Medi 1997 Mewn grym
Tsieina 11 Ionawr 1995 Mewn grym
Colombia 06 Medi 1994 Mewn grym
Cyprus 02 Awst 2016 Mewn grym
Côte d'Ivoire 01 Tachwedd 2019 Mewn grym
Gweriniaeth Dominica 03 Ionawr 2006 Mewn grym
Ffindir 21 Ionawr 2014 Mewn grym
Almaen 23 Tachwedd 2007 Mewn grym
Eidal 03 Gorff 2002 Mewn grym
Libanus 26 Ebrill 2006 Mewn grym
Lwcsembwrg 08 Ebrill 2008 Mewn grym
Mecsico 17 Medi 1992 Mewn grym
Iseldiroedd 08 Mehefin 2017 Mewn grym
Norwy 26 Tachwedd 1993 Mewn grym
Gwlad Pwyl 19 Mai 2005 Mewn grym
Gweriniaeth Corea 11 Ebrill 2003 Mewn grym
Sweden 04 Tachwedd 1992 Mewn grym
Swistir 25 Ebrill 2022 Daw i rym ar 25 Ebrill 2023
Gweriniaeth Arabaidd Syria 14 Mehefin 2006 Mewn grym
Gweriniaeth Unedig Tanzania 15 Mawrth 1999 Mewn grym
Zimbabwe 27 Awst 1998 Mewn grym

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Convention C170 - Chemicals Convention, 1990 (No. 170)".
  2. "Ratifications of ILO conventions: Ratifications by Convention".

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]