Comprimario

Oddi ar Wicipedia
Comprimario
Y comprimario Charles Anthony
Enghraifft o'r canlynolmusical concept Edit this on Wikidata
Mathcanwr opera, dawnsiwr bale Edit this on Wikidata

Mae comprimario yn rôl gefnogol fach mewn opera [1] neu bale [2] (neu'r perfformiwr sy'n perfformio'r rolau hynny). [3] Mae'r gair yn deillio o'r Eidaleg "con primario", neu "gyda'r prif", sy'n golygu nad yw'r rôl na chanwr comprimario yn brif rôl neu'n ganwr sy'n canu prif ran. Mae'r term fel arfer yn cyfeirio at gymeriadau nad ydyn nhw'n canu unrhyw ariâu hyd lawn na golygfeydd hir.(Noder: nid yw cymeriadau mud nad ydyn nhw'n canu o gwbl, yn cael eu hystyried yn comprimarios ).

Dechreuodd llawer o gantorion eu gyrfaoedd fel cantorion comprimario. Mae llawer o rai eraill yn dod â'u gyrfaoedd i ben yn y ffordd honno pan fyddant yn mynd yn rhy fethedig i ymdopi â rolau hir; mae rhai wedi gwneud gyrfa allan o ganu rhannau o'r fath. Ymhlith y rhai hyn mae cantorion fel Anthony Laciura, Jean Kraft, Nico Castel a Charles Anthony o'r Opera Metropolitan;[4] mae eraill yn cynnwys Nelda Garrone, Plinio Clabassi a Karl Dönch.

Rolau comprimario nodedig[golygu | golygu cod]

Ymhlith y rolau comprimario nodedig, mewn operâu sy'n cael eu perfformio'n aml, mae:

  • Don Curzio, Antonio, a Barbarina yn Le nozze di Figaro,
  • Llefarydd y Deml, y Ddau Ddyn mewn Arfwisg, a dau o'r offeiriaid yn Y Ffliwt Hud,
  • Rhingyll yr Heddlu ac Ambrogio yn Farbwr Sevilla,
  • Gwarchodwr carchar yr Iarll Monterone, gwraig Iarll Ceprano, y macwy, a Giovanna y nyrs, yn Rigoletto,
  • Y Cennad yn Aida,
  • Iarll Lerma a’r Llais o’r Nefoedd yn Don Carlos,
  • Y gwyliwr liw nos yn Die Meistersinger von Nürnberg,
  • Y Bugail yn Tristan und Isolde,
  • Y llywiwr yn Der fliegende Holländer
  • Y meddyg a'r ysbrydion yn Macbeth,
  • Y Barnwr a Silvano yn Un ballo in maschera,
  • Aderyn y goedwig yn Siegfried
  • Y pedwar uchelwr sy'n cynllwynio gyda Friedrich von Telramund yn Lohengrin
  • Marchogion y Greal (sydd efo darnau unigol) a'r Ysweiniaid yn Parsifal,
  • Y Carcharor Cyntaf a'r Ail yn Fidelio,
  • Y Swyddog Heddlu a'r Notari yn Der Rosenkavalier,
  • Yr ail Swyddog Heddlu a Shchelkalov yn Boris Godunov
  • Y gwneuthurwr wigiau a'r Gwas bach yn Ariadne auf Naxos
  • Y Cofrestrydd Priodasau yn Madama Butterfly
  • Y Mandarin yn Turandot
  • Gwas Orest yn Elektra
  • Frasquita a Mercedes yn Carmen
  • Bardolfo a Pistola yn Falstaff [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-08. Cyrchwyd 2021-08-30.
  2. "Comprimario definition and meaning | Collins English Dictionary". www.collinsdictionary.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-30.
  3. http://patriciagray.net/Operahtmls/terms.html
  4. "A Career in Comprimario | CS Music". www.csmusic.net. Cyrchwyd 2021-08-30.
  5. "The life of a comprimario, or "Oh, you're that guy!"". Schmopera (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-30.